1Duw! buost in’ yn Arglwydd da,
ac yn breswylfa i drigo,
O bryd i bryd, felly yr aeth
pob rhyw genhedlaeth heibio.
2Er cyn rhoi sail y mynydd mawr,
cyn llunio llawr cwmpas-fyd,
Duw! o dragwyddol wyd cyn neb,
hyd dragwyddoldeb hefyd.
3Weithiau i ddinistr y troi ni,
troi dithau wedi’n rhydda:
A dwedi cyn ein mynd i’r llwch,
dychwelwch meibion Adda.
4Cans dec can mlynedd fel doe ynt,
pan elo’i helynt heibio,
O’th flaen di, megis gwylfa nos,
ni chaiff ymddangos etto.
5Nid yw dyn ond fel hun,
neu ail i addail, neu lifeiriant.
Neu megis glâs lysieun gwan,
mor fuan y newidiant.
6Yr hwn y borau gwyrddlas fydd,
a gwawr o newydd arno:
Ond pan y torrer er brydnawn,
yn fuan iawn mae’n gwywo.
7Cans yn dy lid difethwyd ni
gan ofni dy ddigofaint,
8Rhoist di ein beiau gar dy fron,
a’n holl ddirgelion dryghaint:
9Cans drwy dy ddig mae’n dyddiau ni,
a’n tegwch gwedi darfod:
A’n holl flynyddoedd ynt ar ben,
fel gorphen hen chwedl gorfod.
10Ein holl flynyddoedd yw saith ddeg,
dau pump chwaneg os bydd grym:
Yna ein nerth ai’n boen blin iawn,
i ffordd yr awn yn gyflym.
11Ond pwy a edwyn nerth dy lid?
mawr ofid sydd o’th sorri:
Sef fel y mae dy ofn di’n fawr,
dy ddig sydd ddirfawr inni.
12Dysg felly’n rifo’n dyddiau gwael,
i’n calon gael doethineb.
13Duw ba hyd? dyrd a dod yn hawdd
i’th weision nawdd ac undeb.
14Yn forau iawn diwalla ni
â’th fawr ddaioni eisoes,
Fel y caffom ni lawen fyd
yn hyfryd dros yn heinioes.
15Gwna ni yn llawen, buom brudd
ban oedd yn’ gystudd dybryd:
A chwedi llawer blwyddyn drom,
y rhai y cowsom adfyd.
16O Dduw, gwna weled dy fawr waith,
a’th wrthiau maith i’th weision:
A’th odidowgrwydd, a’th ffyniant,
ymysg eu plant a’i hwyrion.
17Arnom ni doed rhâd Duw a’i nerth dda,
i allu prydferth weithiaw,
Duw dod ein gwaith mewn trefnid
Duw trefna waith ein dwylaw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.