Y Salmau 5 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM VVerbamea auribus.Gweddi yn erbyn ei elynion, gan ddangos ei ymddygiad ei hun tuag at Dduw, heb wneuthur cam â’i elynion.

1Arglwydd clyw ’ngweddi yn ddiball,

Duw deall fy myfyrdod:

2Erglyw fy llais a’m gweddi flin,

Fy Nuw, a’m brenin hyglod.

3Yn forau gwrando fi fy Naf,

yn forau galwaf arnad:

4Cans nid wyd Dduw i garu drwg,

ni thrig i’th olwg anfad.

5Ni saif ynfydion yn dy flaen,

na’r rhai a wnaen anwiredd:

Y rhai hyn sydd gennyt yn gâs,

sef diflas yt bob gwagedd.

6Y rhai a ddwedant ffug a hud,

a phob gwyr gwaedlud creulon,

Ti a’i tynni hwyntwy o’r gwraidd,

fel ffiaidd annuwiolion.

7Dof finnau tu a’th dy mewn hedd,

am dy drugaredd galwaf:

Trwy ofn, a pharch, a goglud dwys,

i’th sanctaidd eglwys treiglaf.

8I’th gyfiownder arwain fi: Ner

rhag blinder a chasineb.

Duw gwna dy ffordd rhag ofn eu brâd,

yn wastad rhag fy wyneb.

9Cans iw genau nid oes dim iawn,

mae llygredd llawn iw ceudod:

Eu gyddfau fel ceulannau bedd,

a gwagedd ar eu tafod.

10Distrywia hwynt iw camwedd,

Ion, o’i holl gynghorion cwympant,

Hwnt a hwy, a’i holl ddrygioni,

i’th erbyn di rhyfelant.

11A’r rhai a’ mddiried ynot ti,

am yt’ gysgodi drostynt:

(Llawen a fydd pob rhai a’th gâr)

cei fawl yn llafar ganthynt.

12Cans ti (Arglwydd) anfoni wlith

dy fendith ar y cyfion:

A’th gywir serch fel tarian gref,

rhoi drosto ef yn goron.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help