1O cenwch fawl i Dduw ein nerth,
cerdd brydferth cenwch iddo:
A llafar lais, a genau ffraeth,
gerddwriaeth i Dduw Jago.
2Cymerwch gathl y psallwyr lân,
a moeswch dympan hefyd:
A cheisiwch ganu gydâ hyn
y nabl a’r delyn hyfryd.
3Cenwch udcyrn ar loer newydd,
y pryd sydd nodol iddo:
4Sef deddf yw hon ar wyl uchel,
Duw Israel ac Jago.
5Yn Joseph clymmodd hyn yn ddysg,
pan ddaeth o fysg yr Aiphtwyr:
Lle clywais iaith oedd ddieithr im’,
heb ddeall dim o’i hystyr.
6Dwedodd fy Nuw: drwy nerth fy mraich
tynnais faich eich ysgwyddau:
Ac felly tynnais eich dwy law,
i’madaw a’r ffwrneisiau.
7I’th flinder gelwaist arnaf fi,
gwaredais di sut yma:
Wrth lais taran fy mrhofiad oedd,
ynglan dyfroedd Meribba.
8Fy mhobl Israel gwrando fi,
os ystyri yn ffyddlon:
9Na fid ynot arall yn Dduw:
na chrymma’i gaudduw estron.
10Myfi yr Arglwydd Dduw a’th ddug
o’r Aiphtir caddug allan:
Llanwaf dy fol heb ddiffyg dafn,
lleda dy safn yn llydan.
11Ni choeliai Israel fy rhybudd,
ni fyddent ufudd ymy:
12Gollyngais hwynt iw ffyrdd eu hyn,
iw cyngor cyndyn hynny.
13Och na wrandawsai Israel,
gan rodio’n ffel fy llwybrau:
14A phwys fy llaw llethaswn fron
eu holl elynion hwythau.
15Caseion ein Duw, yn ei lid,
a ostyngesid iddaw.
Ac ef a roesai yn y tir
ammodau hir i’r eiddaw.
16Ein Duw a roesai iddynt borth,
drwy frasder cymorth rhadol:
Rhoi mel o’r graig, rhoi llaeth yn flith,
a gwenith yn ddigonol.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.