1Fy enaid mola’r Arglwydd nef,
2Mi ’ai molaf ef i’m bywyd:
Dangosaf glod i’m Harglwydd Dduw,
tra gallwyf fyw na symmyd.
3Na wnech hyder ar dwysogion,
nac ar blant dynion bydol:
Am nad oes ynddynt hwy i gyd,
na help nac iechyd nerthol.
4Pan el y ffun o’r genau gwael,
a’r corph i gael daiar-lan:
Felly dychwel, fel dyna’r dydd
y derfydd ei holl amcan.
5Y pryd hwn gwyn ei fyd efo
a rotho ei holl obaith
Ar Dduw Jaco yn gymorth da,
pan el oddi yma ymaith.
6Hwn Dduw a wnaeth nef, dayar, mor,
a’r holl ystor sydd ynthynt:
Hwn a saif yn ei wir ei hun,
pryd na bo un ohonynt.
7Yr hwn i’r gwael a rydd farn dda,
a bara i’r newynllyd,
Fe ollwng Duw y rheidus gwâr,
o’i garchar ac o’i gaethfyd.
8Yr Arglwydd egyr llygaid dall,
ef a dyr wall gwael ddynion:
Ymgleddu’r gwan mae’n Harglwydd ni,
a hoffi y rhai cyfion.
9Dieithraid, a’r ymddifad gwan,
a’r weddw druan unig,
Duw a’i pyrth: ond dyrysu wnai
holl ffyrdd pob rhai cythreulig:
10Yr Arglwydd yn teyrnasu a fydd,
dy Dduw tragywydd Seion:
O oes i oes pery dy lwydd:
molwch yr Arglwydd tirion.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.