Y Salmau 88 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM LXXXVIIIDomine Deus.Y ffyddloniaid yn eu cystudd yn galw ar Dduw drwy ffydd.

1O Dduw fy Iechyd, nos a dydd,

mae ’ngweddi’n ufydd arnad,

2Gostwng dy glust, o Arglwydd nef,

a doed fy llef hyd attad.

3Cans mae fy enaid mewn dull caeth,

a’m heinioes aeth i’r beddrod:

4Fel gwr marw y rhifwyd fi,

a’m nerth oedd wedi darfod.

5Mor farw a rhai wedi eu llâdd,

a’i taflu ’nglhâdd mewn angof:

A laddyt di mor siwr a hyn,

na bai byth honyn atgof.

6Gosodaist fi mewn dyfnder trwch,

ac mewn tywyllwch eithaf.

7Rhoist bwys dy ddig ar y corph mau,

a’th holl for-donnau arnaf.

8Pellheist fy holl gydnabod da,

r’wyf yn ffieidd-dra iddyn:

Ni chaf fi fyned at un câr,

yr wyf mewn carchar rhydyn.

9Y mae fy ngolwg (gan dy lid)

mewn gofid o fawr gystydd.

Duw llefais arnad yn fy mraw,

gan godi ’nwylaw beunydd.

10Ai i’r meirw dangosi wyrth?

a ddont i’th byrth i’th foli?

11A draethir dy fawl yn y bedd,

a’th ni lân wirionedd heini?

12Ai mewn tywyll y mae dy râd?

a’th iowndeb yng wlâd angof?

13Fal hyn (Dduw) llefais arnat ti,

o clyw fy ngweddi etto.

14Pam (o f’Arglwydd a’m Duw) i’m rhaid

y rhoi f’enaid ar wrthod?

Ac y cuddi dy wyneb pryd?

fy nghoel i gyd sydd ynod.

15Truan ymron marwolaeth wyf,

mewn trymglwyf o’m ieuenctyd:

A'th ofni bum yn nychbeth gwael,

gan ammau cael mo’r iechyd.

16Dy ddig a lifodd drosof fi,

d’ofn sydd i’m torri’n efrydd,

Fel deifr y daethant yn fy nghylch,

do, do, o’m hamgylch beunydd.

17Ymhell oddiwrthyf rhoist bob câr,

pob cyfaill hygar heibio:

18 A’m holl gydnabod a fu gynt,

yr ydynt yn ymguddio.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help