Y Salmau 33 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM XXXIIIExultate iusti.Mae yn annog y duwiol i fod yn ddiolchgar i Dduw am ei amryw ddaioni; gan ddangos na eill un creadur gadw dyn, ond daioni Duw.

1Pa rai bynnag, yn Nuw yr Ion,

sy gyfion, llawenychwch:

I bawb ysydd yn iawn yn byw

gweddus yw diolchgarwch.

2A thannau telyn molwch ef,

rhowch hyd y nef ogoniant:

Ar y nabyl gywair ei thon,

ac ar y gyson ddectant.

3Cenwch i’r Ion fawl a mawrhâd,

wiw gerdd o ganiad newydd:

Cenwch iddo yn llafar glod,

bid parod eich lleferydd.

4Am mai union ydyw ei air,

ffyddlon y cair ei weithred.

5Cyfiownder a barn ef a’i câr,

a’r ddaiar llawn o’i nodded.

6Gair yr Arglwydd a wnaeth y nef,

a’i Yspryd ef eu lluoedd:

7Casclai efe ynghyd y mor,

a’i drysor yw’r dyfnderoedd.

8Yr holl ddaiar ofned ein Duw,

a phob dyn byw a’i preswyl:

9Ei arch a saif, a’i air a fydd,

a hynny sydd i’w ddisgwyl.

10Ef a ddirymmodd, (fy Nuw Ior)

holl gyngor y cenhedloedd:

A thrwy lysiant gwnai yn ddi rym,

amcanion llym y bobloedd.

11Ond ei gyngor ef oddi fry,

a bery’n dragwyddoliaeth:

A'i galonfryd efe ei hun,

uwch para un genhedlaeth.

12A phob cenhedloedd, dedwydd ynt,

os Duw iddynt sydd Arglwydd:

A'i etholion, efe a’i gwnaeth

yn etifeddiaeth hylwydd.

13O’r nefoedd fry yr edrych Duw,

ar llwybrau pob rhyw ddynion,

Ac o’i breswylfa edrych ar,

y ddaiar a’i thrigolion.

14Yr hwn a luniodd galon dyn,

a edwyn ei weithredoedd:

15Ac ni chedwir un bydol gun,

o’i nerth ei hun na’i luoedd.

16A pheth palledig ydyw march,

i gael parch ac ymwared:

Ac ni all achub o law’r Ner,

mo’i farchog er ei gryfed.

17Wele lawn olwg Duw, a’i wawl,

maent ar y sawl a’i hofno:

A'i drugaredd ef sydd ar lled,

i’r sawl a ’mddiried yntho.

18Er mwyn gwared, pan fo yn rhaid,

rhag angau enaid adyn:

Ac i borthi y tlawd yn glau,

rhag eisiau, a rhag newyn.

19Ein henaid gan yr Arglwydd hael,

sy’n disgwyl cael ei bywyd:

Efe a byrth ein henaid gwan,

efe yw’n tarian hefyd.

20Sef yn unig yn Nuw yr Ion,

mae’n calon yn llawenu:

Ac yn ei Enw sanctaidd ef,

mae hon yn gref yn credu.

21Duw dy drugaredd dod i ni

sef ynot ti y credwn:

Dy drugaredd a’th nawdd i’n dod,

Cans ynod ymddiriedwn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help