Y Salmau 148 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM CXLVIIILaudate DominumMae efe yn annog pob creadur, o bob lle i foli Duw, yn enwedig am ei ddaioni i Israel.

1O molwch yr Arglwydd o’r nef,

rhowch lef i’r uchel-leoedd.

2Molwch hwn holl angylion nef,

molwch ef ei holl luoedd.

3Yr haul, a’r lleuad, a’r holl ser,

y gloywder, a’r goleuni,

4Nef y nefoedd, a’r ffurfafen,

a’r deifr uwch ben y rhei’ni.

5Moliannant enw’r Arglwydd nef,

hwynt â’i air ef a wnaethbwyd.

Dwedodd y gair, a hwy fal hyn

ar ei orchymmyn crewyd.

6Rhoes reol iddynt i barhau,

fel deddfau byth iw dilyn:

Rhoes bob peth yn ei le’n ddi os,

nad elo dros ei derfyn.

7Molwch yr Arglwydd o’r ddayar,

chwychwi ystrwgar ddreigiau,

8Y tân, a’r cenllysg, eira, a tharth,

a’r gwynt o bob parth yntau,

9Mynyddoedd, bryniau, ffrwythlon wydd

a’r tirion gedrwydd brigog,

10An’feiliaid, ac ymlusgiaid maes,

ac adar llaes asgellog.

11Brenhinoedd dair, barnwyr byd,

swyddwyr ynghyd â’r bobloedd,

12Gwyr ieuainc, gwyryfon, gwyr hen,

pob bachgen ym mhob oesoedd.

13Molant ei enw ef ynghyd,

uchel a hyfryd ydoedd,

Ei enw ef sydd uchel ar

y ddaiar oll, a’r nefoedd.

14Cans corn ei bobl a dderchafawdd,

yn fawl a nawdd i’r eiddo,

I Israel ei etholedig,

a drig yn agos atto.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help