1Achub fi Dduw (y gwr a’m gwnaeth)
tros f’enaid daeth llif-ddyfr-loes,
2Yr wyf mewn dyfnder tom ynglyn,
heb le i ’mddiffyn f’einioes.
O’r dyfnder daethym fal ar fawdd,
a’r ffrwd a lifawdd uchod:
3Sychodd fy ngheg, blinodd fy llais,
â’m llygaid pellais ganfod.
4A hyn wrth ddisgwyl Duw a’i câs,
wele fy nghâs yn amlach
Nâ’r gwalld ar ben fy nghoppa fry,
a’r trowsion sy’n gadarnach.
Y rhai celwyddog, taerion ynt,
rhois iddynt beth ni chefais.
5Adwaenost (Dduw) f’ynfydrwydd mau,
a’m beiau fi ni chuddiais.
6O’m plegid i dim gwarth ni chânt
y rhai a goeliant arnad,
Na âd (Dduw’r lluoedd) fefl na thrais
i’r rhai a ymgais attad.
7(Duw Israel) sef er dy fwyn,
yr wyf yn dwyn gwarthrudd-deb:
A thrwy gywilydd ymarhois,
mewn chwys y tois fy wyneb.
8I bobl dieithr myfi, (gwn pa’m)
i blant fy mam fel estron.
9A’m fod fy serch a’m sel i’th dy
i’m hysu hyd fy nghalon.
Cans cabl y rhai a’th gablant di
ar f’ucha i mae’n disgyn.
10Fy nagrau cystudd, a’m hun-pryd,
ynt warth i gyd i’m herbyn.
11A phan wisgwn i liain sach,
bum ddiystyrach lawer,
12Bum chwedyl drws i gryf a thlawd,
i’r meddw yn wawd iw harfer.
13Ond f’Arglwydd Dduw, gwnaf attad ti
fy ngweddi yn amserol.
O gwrando fi i’th wirfawr hedd,
ac i’th wirionedd grasol.
14Duw, gwared fi, gwna fi’n rhydd
o’r dom y sydd i’m suddo,
Sef caseion, dyfroedd dyfnion,
a mi nid ofnaf gyffro.
15Na lifed dwfr drosof yn ffrwd,
na’m llynced amrwd ddyfnder,
Na chaued pydew arnaf chwaith,
mo’i safn diffaith ysceler.
16Gwrando fi bellach Arglwydd Dduw,
cans da yw dy drugaredd,
Yn amlder dy dosturi mawr
edrych i lawr rhag trowsedd.
17O’m cyfyngder oddiwrth dy wâs
na chudd mo râs dy wyneb,
Rwyf yn gweddio yn fy ngloes,
Duw bryssia moes y’m atteb.
18Neshâ at f’enaid Arglwydd mau,
er fy ryddhau a’m gwared,
Moes ymddiffyn rhag cael o hon
gan fy ngelynion niwed,
19Duw di a weli o bob parth
fy ngwardwydd, gwarth, a’m cwilydd
O herwydd rhodio gar dy fron
mae fy ngelynion beunydd.
20Mewn gorthrwn ofid yr wyf fi
a gwarth yn torri’ nghalon:
Disgwyl cymhorthwyr, ni ddoe neb,
ni chawn gysurdeb tirion.
21Bustl a roesan yn fwyd i mi,
finegr i dorri syched.
22Eu bwrdd boed iddynt fagl aflwydd,
a’i llwydd yn dramgwydd bydded.
23Ar eu llygaid dallineb doed,
iw llwynau boed crynfeydd.
24Tywallt arnynt dy ddig a’th lid,
doed iddynt ofid beunyd.
25Boed eu palasau’n wâg heb wedd,
ac anghyfannedd iddyn,
Na allo neb na dydd na nos
mo’r aros yn eu tyddyn.
26Cans yr hwn a darawsyd ti
mae’ rhei’ni yn ei erlyd:
A’r doluriau y sydd o’th friw
y maent iw hedliw hefyd.
27Dod gamwedd ar eu camwedd hwy,
na ddont mwy i’th gyfiownder
28Ymaith o lyfr y bywyd llawn,
o fysg y cyfiawn tynner.
29Finnau pan fwyf odidus wan,
a phan fwyf druan hefyd,
Dy iechydwriaeth di (o Dduw)
eilchwyl i fyw a’m cyfyd.
30Moliannaf d’enw Dduw ar gân,
fal dyma f’amcan innau.
31A hyn fydd gwell gan Dduw deyrn
nag ych â chyrn a charnau.
32A phob truan, pan weler hyn,
a ennyn o lawenydd:
A’ch calon chwi sy’n ceisio Duw
cyfyd i fyw o newydd.
33Duw gwrendy dlawd,
ni ddirmyg lef oi gaethwas ef sy fethiant.
34Nef, a daiar, a mor, a hyn
a ymlysg ynthyn, moliant.
35Cans Duw a gedw Sion deg,
a threfna’n chwaneg Juda:
Adeilada ddinesydd hon,
i ddynion yn breswylfa.
36Fe ei weision ef a’i hil,
a’i heppil, a’i meddiannant:
A’r rhai a hoffa ei enw fo,
yn honno a breswyliant.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.