Y Salmau 145 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM CXLVExaliabo te.Dafydd yn dangos daioni Duw yn llywodraethu pob creadur. Mawl i Dduw am ei gyfiownder, ai ras, ai serch i bob dyn a’i hofno, ac a’i caro.

1Mi a’th fawrygaf di, fy Nuw,

cans tydi yw fy llywydd:

Bendithio dy enw byth a wnaf,

mi a’i molaf yn dragywydd.

2Dy enw a folaf fi bob dydd,

a’th glod a fydd heb orphen.

3Yr Arglwydd sydd glodfawr heb wedd,

a’i fowredd sydd heb ddiben.

4Cenedl wrth genedl a ront fawl

i’th ogoneddawl wrthiau:

Gan danu dy nerth rhyd y byd,

a dwedyd dy gynneddfau.

5Am dy ogonedd mawr, fy Naf,

mynegaf, a’th gadernyd.

6Son am dy bethau ofnadwy,

gwnant hwy a minnau hefyd.

7Llwyr goffadwriaeth honot ti,

a’th fawr ddaioni traethant:

Ac o’th gyfiownder, fy Nuw Ion,

a llafar don y canant:

8Sef graslawn yw ein Arglwydd ni,

ac o dosturi rhyfedd:

Hwyr ac anniben yw i ddig:

llawn-frydig i drugaredd.

9Da yw yr Arglwydd i bob dyn,

a’i nodded sy’n dycciannol:

Ac ar ei holl weithredoedd ef

daw nawdd o’r nef yn rasol.

10Dy holl weithredoedd di i’th lwydd,

o Arglwydd a’th glodforant:

Dy wyrth pan welo dy Sainct di,

y rhei’ni a’th fendithiant.

11Gan son am drugaredd a grâs

dy dyrnas, a’i chadernyd:

Fal dyna’r gerdd sydd yn parhau,

yn eu geneuau hyfryd.

12Fel y parent drwy hyfryd glod,

gydnabod a’th dyrnasiad:

A’th nerth ym mysg holl ddynol blant,

a’th lawn ogoniant gwastad.

13Brenhiniaeth dy dyrnas di fry,

a bery yn wastadol:

A’th lywodraeth o oed i oed,

hon a roed yn dragwyddol.

14Yr Arglwydd cynnal ef yn llonn,

y rhai sy ’mron eu cwympod.

Ac ef a gyfyd bawb yn wir,

ar a ostyngir isod.

15Wele, mae llygaid yr holl fyd

yn disgwyl wrthyd Arglwydd,

Dithau a’i porthi hwynt i gyd,

bawb yn ei bryd yn ebrwydd.

16A phan agorech di dy law,

o honni daw diwall-faeth:

D’ewylls da yw ymborth byw,

a hynny yw eu llyniaeth.

17Holl ffyrdd yr Arglwydd cyfion ynt,

a’i wrthiau ydynt sanctaidd:

18Agos iawn i bawb ydyw fo,

a eilw arno’n buraidd.

19Sef ar y gwyr a’i hofnant ef,

fo glyw eu llef iw gwared,

Fo rydd eu ’wyllys hwynt a’i barch,

o’i wir-barch, Ion gogoned.

20Pob dyn a garo’r Arglwydd nef,

caiff gantho ef ei ’mddiffyn:

A chan difetha rhydd oes ferr,

i bob ysceler cyndyn.

21Fy enaid traethed fendith rhwydd,

a mawl yr Arglwydd nefol:

A phob cnawd rhoed iw enw, y Sanct,

ogoniant yn dragwyddol.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help