1Fy llais at Dduw, pan roddais lef,
fy llais o’r nef fo’i clybu:
A’m llais gweddiais ar Dduw Ner,
pan oedd blinder yn tarddu.
2Y dydd y rhedai ’mriw, a’r nos
ni pheidiai achos llafur,
Mewn blin gyfyngder gwn fy mod,
a’m hoes yn gwrthod cysur.
3Yna y cofiwn Dduw a’i glod,
pan syrthiai drallod enbyd:
Yna gweddiwn dros fy mai,
pan derfysgai fy yspryd.
4Tra fawn yn effro, ac mewn sann,
heb allel allan ddwedyd,
5Ystyriais yna’r dyddiau gynt,
a’r helynt hen o’r cynfyd.
6Cofiwn fy ngherdd y nos fy hun,
heb gael amrantun, chwiliwn
A chalon effro, genau mud,
â’m hyspryd ymddiddanwn:
7Ai’n dragywydd y cilia’r Ion?
a fydd ef bodlon mwyach?
8A ddarfu byth ei nawdd a’i air?
a gair ei addaw bellach?
9Anghofiodd Duw drugarhâu?
a ddarfu cau ei galon?
A baid efe byth (meddwn i)
fal hyn â sorri’n ddigllon?
10Marwolaeth ym’ yw’r meddwl hwn:
a throis yn grwn i gofio
Ei fawr nerth gynt: cofio a wnaf,
waith y Goruchaf etto.
11Cofiaf dy weithredoedd (f’Arglwydd)
a’th wrthiau hylwydd cofiaf,
12Am bob rhyfeddod a phob gwaith,
â myfyr maith y traethaf.
13O Dduw: pa Dduw sydd fal ti Dduw?
dy ffordd di yw’n sancteiddiol:
14Dy waith dengys dy nerth i’r byd,
pair yn’ i gyd dy ganmol.
15Dy nerth fawr hon a ro’ist ar led,
wrth wared yr hen bobloedd,
Jagof, a Joseph, a fu gaeth,
a’i holl hiliogaeth luoedd.
16Y deifr gwelsant, ofnasant hyn,
a dychryn cyn eu symmud.
17Cymylau dwfr cylch wybr yn gwau,
a mellt fal saethau enbyd.
18Dy daran rhuodd fry’n y nen,
dy fellt gwnaent wybren olau,
Y ddaiar isod a gyffrodd,
ac a dychrynodd hithau.
19Yn eigion mor mae y ffordd dau,
a’th lwybrau mewn deifr sugnedd,
Ac ni adweinir byth mo’th ol,
yn dy anfeidrol fowredd.
20Dy bobloedd a dywysaist di
drwy anial ddrysni efrydd,
Gan law Moses, a’i frawd Aaron,
fel defaid gwirion llonydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.