1O Dduw, dydi a’n gwrthodaist,
ar wasgar gyraist ymaith,
O sorraist wrthym yn ddi gel,
tro attom, dychwel eilwaith.
2Dychrynaist di y ddaiar gron,
a holltaist hon yn ddrylliau,
Cans o’th lid ti siglo y mae,
iachâ, a chae ei briwiau.
3Dangosaist i’th elynion di
o bwys caledi ormod:
A’r ddiod a roist yn eu min,
oedd megis gwin madrondod.
4Rhoddaist faner, er hyn i gyd,
i bawb o’r byd a’th ofnant,
I faneru drwy dy air gwir,
dros lu y tir lle y trigant:
5Fel y gwareder drwy lân hwyl,
bob rhai o’th anwyl ddynion.
O achub hwynt â’th law ddeau,
a gwrando finnau’n ffyddlon.
6Yn ei sancteiddrwydd dwedodd Duw,
llawen yw fy nghyfamod,
Mi a rannaf Sichem rhyd y glyn,
mesuraf ddyffryn Succod.
7Myfi biau y ddwy dref tad,
sef Eilead, a Manasse,
Ephraim hefyd yw nerth fy mhen,
a Juda wen f’anneddle.
8Ym Moab ymolchi a wnaf,
dros Edom taflaf f’esgid:
A chwardded Palestina gaeth,
a’i chwerthin aeth yn rhybrid.
9Duw, pwy a’m dwy i’r ddinas gref?
pwy a’m dwg i dref Edom?
10Er yt ein gwrthod, pwy ond ti,
o Dduw a’mleddi drosom?
Ynot yn unig mae’n coel ni,
perhon i ti a’n gwrthod,
Er nad aethost o flaen ein llu,
bydd ar ein tu mewn trallod.
11O unig Dduw, bydd di’ ni’n borth,
ofer yw cymorth undyn.
12Yn Nuw y gwnawn wroliaeth fawr
fo sathra’i lawr y gelyn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.