Y Salmau 4 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM IVCum inuocarem.Dafydd yn achwyn wrth Dduw rhag ei elynion.

1Duw fy nghyfiownder clywaist fi,

i’m cyni pan i’th elwais:

Rhyddheaist fi, dod y’m un wedd,

drugaredd, clyw fy oerlais.

2O feibion dynion hyd ba hyd

y trowch trwy gyd ymgabledd,

Fy mharch yn warth? a hynny sydd

drwy gelwydd a thrwy wagedd.

3Gwybyddwch ethol o Dduw cun,

iddo’i hun y duwiolaf:

A phan alwyf arno yn hy,

efe a wrendy arnaf.

4Ofnwch, a thewch, ac na phechwch,

meddyliwch ar eich gwely,

5Aberthwch, gobeithiwch Dduw ner,

rhodd cyfiownder yw hynny.

6Pwy (medd llaweroedd) y pryd hyn,

a ddengys yn’ ddaioni?

O Arglwydd, dercha d’wyneb pryd,

daw digon iechyd ini.

7Rhoist i’n calon lawenydd mwy,

(a hynny trwy dy fendith:)

Nag a fyddai gan rai yn trin,

amlder o’i gwin a’i gwenith.

8Mi orweddaf ac a hunaf,

a hynny fydd mewn heddwch:

Cans ti Arglwydd o’th unic air,

a bair y’m ddiogelwch.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help