Y Salmau 65 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM LXVTe decet hymnus.Y ffyddloniaid yn diolch i Dduw, am eu dewis a’i llywodraethu hwy, ac am ei fendithion i’r ddaiar.

1I ti (o Dduw) y gweddai mawl

yn y sancteiddiawl Sion,

I ti y telir drwy holl gred,

bob gwir adduned calon.

2Pawb sydd yn pwyso attad ti,

a wrendy weddi dostur,

Ac attad ti y daw pob cnawd,

er mwyn gollwngdawd llafur.

3Pethau trowsion, a geiriau mawr,

myfi i’r llawr bwriasant,

Ond tydi Dduw, rhoi am gamwedd

drugaredd a maddeuant.

4Dy etholedig dedwydd yw

caiff nesnes fyw i’th Babell,

Trig i’th gynteddau, ac i’th lys,

a’th sanctaidd weddus gangell.

5Duw’n ceidwad attebi i ni

o’th ofni i’th gyfiownedd,

Holl obaith wyd drwy’r ddaiar hon,

a’r mor cynhyrfdon rhyfedd.

6Hwn a siccrhâ bob uchel fryn

â’i wregys yn gadernyd.

7Hwn a ostega’r mor, a’r don,

a rhuad eigion enbyd.

8A holl breswylwyr eithaf byd

sy’n ofni’ gyd d’arwyddion,

I ti gan forau a chan hwyr,

y canant laswyr ffyddlon.

9Dyfrhau y ddaiar sech yr wyd,

afon Duw llanwyd drosti,

Darperaist lifddyfr rhyd ei llawr

iw thramawr gyfoethogi.

10Pob rhych yr wyd yn ei ddyfrhau,

a’i chwysau’r wyd iw gostwng.

A’i rhoi ym mwyd mewn cafod wlith,

iw chnwd rhoi fendith deilwng.

11Coroni’r ydwyd ti fal hyn

y flwyddyn â’th ddaioni,

Y ffordd hyn a’r modd (Duw fy ner)

diferaist frasder arni.

12Ef a ddifera ffrwyth dy serch

ar bob rhyw lannerch ddyrys,

Pob mynydd sych yn uchder gwlâd

o ffrwyth dy rad y dengys.

13Drwy dy fendith y gwastad dir

a guddir oll â defaid,

Crechwennant, canant bawb ynghyd,

a’r wlâd ac ŷd ei llonaid.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help