Y Salmau 47 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM XLVIIOmnes gentes.Peri addoli Duw am ei drugaredd i had Iago: prophwydoliaeth am deyrnas Christ.

1Cenwch, a churwch ddwylo ’nghyd:

holl bobl y byd cyfannedd:

A llafargenwch i Dduw nef,

gan leisio â llef gorfoledd.

2Sef ofnir Duw uwch daiar gron,

ef sydd dros hon yn frenin,

3Dwg bobloedd danom, a phob gwaed,

a than ein traed fo’i disgin.

4Fe a rydd ini feddiant siwr,

gwlad Jago, gwr a garai.

5Duw a dderchafodd wrth y sain,

yr utgorn gain pan leisiai.

6O cenwch, cenwch, glod ein Duw,

ein brenin yw, o cenwch,

7Duw dros y byd sy frenin call,

drwy ddeall ymhyfrydwch.

8Brenin yw ef, a da y gwnaeth

lywodraeth ar wyr bydol,

Ac y mae’n eistedd yn ei drwn,

gorseddfa swn sancteiddiol.

9Ymgasglant bendefigion byd:

ynghyd â llu Duw Abra’m,

Duw biau tariannau y tir,

drwy foliant hir yn ddinam.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help