Y Salmau 113 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM CXIIILaudate pueri.Cyngor i foli Duw am ei ddaioni iw bobl.

1Chwi weision Duw molwch yr Ion,

Molwch ei enw â llafar don,

2bendigaid fytho ei enw ef.

3O godiad haul hyd fachlud dydd,

Mawr enw yr Ion moliannus fydd,

yn y byd hwn, ac yn y nef.

4Derchafodd Duw uwch yr holl fyd:

A’i foliant aeth uwch nef i gyd,

5pwy sy gyffelyb i’n Duw ni?

Yr hwn a breswyl yn y nef,

6I’r ddaear hon darostwng ef,

gwyl ef ein cam, clyw ef ein cri.

7Yr hwn sy’n codi’r tlawd o’r llwch:

A’r rheidus o’i ddiystyrwch,

8iw gosod uwch pennaethiaid byd.

9I’r ammhlantadwy mae’n rhoi plant,

Hil teg, a thylwyth, a llwyddiant:

am hyn moliennwch Dduw i gyd.

Gogoniant fyth a fytho i’r Tâd:

A bid gogoniant i’r Mab rhad,

i’r Yspryd glân gogoniant fo:

Megis gynt yn y dechreu yr oedd,

Ac y bydd byth yn oes oesoedd,

dwedwn Amen, poed felly y bo.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help