1Ymgyfoded un Duw ein Ner,
gwasgarer ei elynion:
Un drygddyn honynt nac arhoed,
o’i flaen foed ei gaseion.
2Os chwalu mwg mewn gwynt sy hawdd,
os tawdd cwyr wrth eiriasdan,
Fel hynny o flaen Duw (yn wir)
yr enwir a ddiflannan.
3Ond llawenycher ger bron Duw
y cyfion, iw orfoledd:
A'i hyfrydwch hwyntwy a fydd
yn llawenydd cyfannedd.
4Cenwch, a molwch enw Duw,
sef hwn yw uwch y nefoedd
Yn marchogaeth, megis ar farch,
iw enw rhowch barch byth bythoedd.
5A gorfoleddwch gar ei fron,
Duw tirion, tâd ymddifaid.
Ac i’r gweddwon mae’n farnwr da
yn ei bryswylfa gannaid.
6Duw a wna rai mewn ty’n gytun,
ei hun mae’n gollwng gefyn,
Ac yn rhoi trigfan mewn tir crâs,
i ddynion atcas cyndyn.
7Pan aethost (Dduw) o flaen dy lu,
dy daith a fu drwy ddrysni.
8Y ddaiar crynodd a flaen Duw,
a’r nef rhoes amryw ddefni.
Ac felly Sinai o flaen Duw,
sef (unduw Israel howddgar)
9Ar d’etifeddiaeth hidlaist law,
i ddiflinaw y ddaiar.
10Gwrteithiast hon, dy bobloedd di
sydd ynthi yn preswylio:
Oth râd darperaist Dduw i’r tlawd,
i gael digondawd yno.
11Yr Arglwydd Dduw a roddai’r gair,
mawr mintai’r cantoressau:
12Cilient gedyrn: gweiniaid arhont,
yr ysbail rhont yn rhannau.
13Pes ymdroech mewn parddu a llwch,
chwi a fyddwch fel y glommen:
A’i phlu yn aur ac arian teg,
yn hedeg is yr wybren.
14Hon, pan wasgarodd Duw yn chwyrn
bob cedyrn o’i gaseion,
Oedd mor ddisgleirwych, ac mor wenn,
ac eira’ar ben bryn Salmon.
15Mynydd Duw (sef Sion) y sydd
fel Basan fynydd tirion:
Mynydd Basan uchel ei grib
cyffelib yw i Sion.
16Chwychwi fynyddoedd cribog pam
y bwriwch lam mewn cyffro?
Duw ar Seion ei serch a roes,
lle myn ef eisoes drigo.
17Rhif ugain mil o filoedd yw
angylion Duw mewn cerbyd:
Ynghyssegr Sinai y bu ei wlith,
bydd Duw iw plith hwy hefyd.
18I’r uchelder y derchefaist,
a chaethgludaist gaethiwed,
Cymraist, dodaist ddoniau, Duw Ion,
i ddynion oedd ddiniwed.
19Bendigaid fyth fo’r Arglwydd mau
am ddoniau ei ddaioni.
A’i iechydwriaeth i ni’n llwyth
o berffrwyth ei haelioni.
20Efe ei hun yw’n Duw ni i gyd,
sef Duw ein iechyd helaeth,
Drwy’r Arglwydd Dduw cawn yn ddi swrth
ddiangc oddiwrth farwolaeth.
21Duw yn ddiammau a dyrr ben,
a thalcen ei elynion:
A choppa walltog rhai a fo
yn rhodio mewn drwg creulon.
22Dygaf fy mhobloedd (meddai ef)
hyd adref fel o Basan:
A dygaf hwynt iw hol drachefn,
fel o’r mor donlefn allan.
23Fel y gwlychech ditheu dy draed
yn llif gwaed dy ddigassau,
Ac y llyfo dy gwn heb gel
y gwaed a ddel o’i briwiau.
24Gwelodd pawb (o Dduw) dy ystâd,
yn dy fynediad sanctaidd,
Mynediad fy Nuw frenin fry,
fel hyn iw dy casegraidd.
25Y cantorion, aent hwy o’r blaen,
cerddorion aen ol ynol,
Yna’r gweryfon, beraidd gân,
ar tympan yn y canol.
26Clodforwch Dduw hynny sydd dda
ym mhob cyn’lleidfa ddiwael:
A chlodforwch yr Arglwydd Ion,
chwi sydd o ffynnon Israel.
27Doed Benjamin y llywydd bach,
doed bellach dugiaid Juda,
Doed Nephtali, a Zabulon,
a’i tywysogion yna.
28Dy Dduw a drefnodd i ti nerth,
a’i law sydd brydferth geidwad,
Duw cadarnhâ etto yn faith
arnom ni waith dy gariad.
29Er mwyn Caersalem adail deg,
rhydd cedyrn anrheg yty.
30Difetha dyrfa y gwaywffyn,
a’r rhai a fyn ryfely.
Dewr fel teirw, nwyfus fel lloe,
y rhei’ni a roe yr arian:
Delont i’r iawn: tyn nerth a nwy’
a gostwng hwy yn fuan.
31Y pendefigion o’r Aipht draw
a ddaw, ac Ethiopia:
At Dduw yn brysur i roi rhodd,
ac aberth gwirfodd yna.
32Holl dyrnasoedd y ddaiar lawr,
i Dduw mawr cenwch foliant,
Cenwch, cenwch ei glod yn rhwydd,
sef Arglwydd y gogoniant.
33Hwn a farchogodd y nef fry,
a hynny o’r dechreuad:
Wele, daw nerthol sain ei lef
o eitha’r nef i wastad.
34Rhoddwch gadernid i Dduw ner,
sef uchder ei ragoriaeth,
Y sydd ar Israel, a’i nerth
uwch wybrau prydferth gywaeth.
35Duw, o’th gysegr i’th ofnir di,
Duw Israel dodi nerthoedd:
A chadernid mawr wyd i’th blaid,
bendigaid fych oes oesoedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.