Y Salmau 100 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM CJubilate Deo.Mae yn cynghori pob dyn i wasanaethu yr Arglwydd, ac i fyned iw gynnulleidfa i’w foli.

1I’r Arglwydd cenwch lafar glod,

a gwnewch ufydd-dod llawen fryd,

2Dowch o flaen Duw a pheraidd don,

trigolion y ddaear i gyd.

3Gwybyddwch mai’r Arglwydd sydd Dduw,

a’n gwnaeth ni’n fyw fel hyn i fod,

Nid ni’n hunain, ei bobl ym ni,

a defaid rhi’ ei borfa a’i nod.

4O ewch i’w byrth a diolch brau,

yn ei gynteddau molwch ef,

Bendithiwch enw Duw hynod,

rhowch iddo glod drwy lafar lef.

5Cans da yw’r Arglwydd, awdur hedd,

da ei drugaredd a di lyth:

A’i wirionedd ini a roes,

o oes, i oes, a bery byth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help