1Duw dod i’r brenin farn o’r nef,
dod iw fâb ei gyfiowndeb.
2Yna y rhydd rhwng pobl iawn frawd,
ac i’r dyn tlawd uniondeb.
3Hedd a chyfiownder, yn ol hyn,
cair ym hob bryn a mynydd.
4Y gwan a’r llesg achub a wna,
fe dryllia y gorthrymmydd.
5Hwy a’th ofnant byth ar bob tro,
tra treiglo haul a lleuad,
6Fo ddisgyn fel glaw ar wellt glâs,
neu gafod frâs ar wastad,
7Iw ddyddiau ef cerir yn iawn,
a’r cyfiawn a flodeua.
Ac aml fydd hedd ar ddaiar gron,
tra fo’r lloer hon yn para.
8Llwydda efe o for hyd for,
o’r ffrwd hyd oror tiroedd:
9Ei gâs ymgrymmnt, llyfant lwch,
hyd yr anialwch cyrredd.
10Cedyrn o Tharsus frenhinoedd,
ac o’r ynysoedd canol,
O Seba ac Arabia deg,
doe bawb â’i anrheg reiol.
11Yr holl frenhinoedd doent yn llu,
a than ymgrymmu atto:
A’r holl genhedloedd, fel yn gaeth,
a wnant wasanaeth iddo.
12Cans y dyn rheidus, a’r gwr gwan,
fo’i gweryd pan weddio.
Bydd i bod dyn yn nerthol dwr,
ar ni bo pleidwyr gantho:
13Ef a erbyd y tlawd mewn rhaid,
fo achub enaid glanddyn:
14Fo a’i gweryd rhag twll a drwg,
gwerthfawr iw olwg ydyn.
15Felly bydd byw: rhoir iddo dda,
sef aur o Seba ddedwydd,
Hwy a weddiant arno fo,
gan ei fendithio beunydd.
16Rhyd pen y mynydd yd a gân,
fel brig coed Liban siglant:
A’r plant cyn amled ar gwellt glâs,
o’r ddinas a flagurant.
17Os haul cylch wybren byth a dry,
byth pery enw iddaw,
Pawb a’i bendithia ef yn wir,
pawb a fendithir ynthaw.
18Bendigaid fo yr Arglwydd Dduw,
(sef Duw yr Israel dirion)
Efe’n unig byth sy’n parhau,
i wneuthur gwrthiau mowrion.
19Bendigaid fytho i enw byth,
gogonedd dilyth iddo:
A’i glod llenwir y ddaiaren:
Amen: Amen hyn fytho.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.