1Clodfored pawb yr Arglwydd nef,
ar ei enw ef y gelwch:
A’i weithredoedd ymmysc pobloedd
yn gyhoedd a fynegwch.
2Cenwch ei gerdd, clodforwch hwn,
a’i ddidwn ryfeddodau.
3Y rhai a gais ei enw, (y Sant)
llawenant yn eu c’lonnau.
4Ceisiwch yr Arglwydd a’i nerth mawr,
a’i fodd bob awr yn rhadlon,
5Cofiwch ei holl ryfeddodau,
a barn ei enau cyfion.
6O hâd Abraham ei wâs fo,
o feibion Jaco’r ethol:
7Ef yw’n Duw, a’i farn ef aeth
dros holl diriogaeth fydol.
8Bob amser cofiodd ei gyn-grair,
ei air, a’i rwym ammodau
9Ag Abraham, Isaac, a’i hil,
a mil o genedlaethau.
10Fe roes i Jaco hyn yn ddeddf,
ac yn rwym greddf dragwyddol.
11Ac i Israel y rhoes lân
wlâd Canan yn gartrefol.
12Pan oedd yn anaml iawn eu plaid,
a hwy’n ddieithriaid ynddi:
13Ac yn rhodio o’r wlâd i’r llall,
yn dioddef gwall a chyni:
14Llesteiriodd iddynt gam yn dynn:
o’r achos hyn brenhinoedd
A geryddodd ef yn eu plaid:
a’i air a gaid yn gyhoedd.
15A’m eneiniog na chyffyrddwch:
na ddrygwch fy mrhophwydi.
16Galwodd am newyn ar y tir,
yn wir dug fara ’honi.
17O flaen ei blant y gyrrodd râs,
Joseph yn wâs a werthwyd.
18Ar ei draed y rhoed hayarn tynn,
mewn gefyn y cystuddiwyd.
19Gwisgodd y gefyn hyd y byw,
nes i air Duw amseru:
Drwy Dduw y cafas ef ryddhâd,
a phrifiad er ei garu.
20Yna y gyrrwyd iw gyrchu fo
gar bron hen Pharo frenin:
Ac y gollyngwyd ef ar lled,
o’i gam gaethiwed ryflin.
21O hyn ei osod ef a wnaeth
yn bennaeth ar ei deuly,
Ac o’i holl gyfoeth ef a’i wlâd,
ys da fawr-hâd oedd hynny,
22I ddyscu’i reolwyr ei lys,
ei ’wllys a’i foddlondeb:
I fforddio henuriaid y wlâd,
yn wastad mewb doethineb.
23Daeth Israel i’r Aipht tir Cham,
lle’r oedd yn ddinam estron:
24Lle llwyddodd Duw hil Jaco bach
yn amlach nâ’i caseion.
25Yna y troes ei calon gau,
i lwyr gasau ei bobloedd:
Iw weision ef i wneuthur twyll,
a llid (nid amwyll) ydoedd.
26Duw gyrrodd Foesen i was hen,
ac Aron llen dewisol.
27Yn nhir Ham i arwyddoccau
ei nerth a’i wrthiau nodol.
28Rhoes Duw dywyllwch dros y wlâd,
er hyn ni châd ufydd-dod.
29Eu dyfroedd oll a droed yn waed,
a lladd a waned eu pysgod.
30Iw tir rhoes lyffaint, heidiau hyll,
yn stefyll ei brenhinoedd:
31Daeth ar ei air wybed a llau,
yn holl fannau eu tiroedd.
32Fe lawiodd arnynt genllysc mân,
a’i tir â than a ysodd:
33Eu gwinwydd a’i ffigyswydd mâd,
a choed y wlâd a ddrylliodd.
34Ceiliog rhedyn, a lindys brwd,
yn difa cnwd eu meusydd,
35Uwchlaw rhif, drwy yd, gwellt, a gwair,
a hyn drwy air Duw ddofydd.
36Cyntaf-anedig pob pen llwyth,
a’i blaenffrwyth ef a drawodd:
Ym hob mân drwy holl dir ei gâs,
a’i bobl o’i râs a gadwodd:
37Ar a’i dug hwynt yn rhydd mewn hedd,
o’winedd eu caseion,
Heb fod ohonynt un yn wan,
ac aur ac arian ddigon.
38A llawen fu gan wyr y wlad,
o’r Aipht pan gâd eu gwared.
Daeth arnynt arfwyd y llaw gref
a ddaeth o’r nef i wared.
39Rhoes Duw y dydd gwmwl uwchben,
fel mantell wen y toodd:
A’r nos goleuodd hwynt â thân,
fal hyn yn lân y twysodd.
40Fo a roes iddynt ar y gair
gig sofli-air iw bodloni:
A bara, o’i orchymmyn ef,
a ddaeth o’r nef iw porthi.
41Holltodd y graig, death deifr yn llif,
fel be baent brif afonydd:
Cerddodd yr hedlif, a rhoes wlych
rhyd pob lle sych o’r gwledydd.
42Cofio a wnaeth ei air a’i râs,
i Abram ei wâs ffyddlon.
43A thrwy fawr nerth yn rhydd o gaeth
y gwnaeth ei ddewisolion.
44Tir y cenhedloedd iddynt rhoes,
a’i llafur troes iw meddiant:
45Er cadw ei air a’i gyfraith ef,
rhowch hyd y nef ei foliant.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.