1Yn Juda ac Israel dir
adweinir ein Duw cyfion.
2Ei babell ef yn Salem sydd,
a’i breswylfydd yn Sion.
3Yno drylliodd y bwa a’r saeth,
a’r frwydr a wnaeth yn ddarnau:
A thorrodd ef yn chwilfriw mân bob tarian,
a phob cleddau.
4Trawsion fu cedyrn mynydd gynt,
mewn yspail helynt uchel:
Uwch a chryfach wyt na hwyntwy,
nid rhaid byth mwy mo’i gochel,
5Pob cadarn galon a ymroes,
ac ni ddeffroes o’i gyntyn.
Pawb a ddiffrwythodd pan ddaeth braw,
ni chae un llaw ei dderbyn.
6O’th waith (Duw Jagof) a’th amharch,
cerbyd a’r march rhoi’i huno.
7Ofnadwy wyd pwy i’th lid wg,
a saif i’th olwg effro?
8Pan ddaeth o’r nefoedd dy farn di,
yr wyd yn peri’ i chym’ryd,
Y ddaiar ofnodd, a’i holl llu,
rhoist i ostegu ennyd.
9I farnu pan gyfododd Duw
i gadw yn fyw y gwirion:
A’r rhai oedd lonydd yn y tir,
yr oeddyn gywir galon.
10Cans poethder dyn yw dy fawl di,
felly gostegi drallod:
Eu gwres, i’r da a fag gref ffydd,
i’r drwg a fydd yn ddyrnod.
11Eich rhodd i’r Arglwydd Dduw addewch,
a llawn gwblhewch eich gobrwy,
Pawb sydd o amgylch Sion deg,
rhowch anrheg i’r ofnadwy.
12Ef a ostyngodd uchel fryd,
ac yspryd gwyr rhyfelgar:
Fo a yrr ofn ynghanol hedd,
ar holl frenhinoedd daiar.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.