1Molwch yr Arglwydd, cans da yw
moliannu Duw y llywydd.
Oherwydd ei drugareddau,
sydd yn parhau’n dragywydd.
2Dweded Israel da yw ef,
a’i nawdd o nef ni dderfydd.
3Dyweded ty Aaron mai da yw,
trugaredd Duw’n dragywydd.
4Y rhai a’i hofnant ef yn lân,
a ganan yr un cywydd.
Rhon iw drugaredd yr un glod,
sef ei bod yn dragywydd.
5Im hing gelwais ar f’Arglwydd cu,
hawdd gantho fu fy nghlywed:
Ef a’m gollyngodd i yn rhydd
o’i lân dragywydd nodded.
6Yr Arglwydd sydd i’m gyda’ mi,
nid rhaid ym’ ofni dynion.
7Yr Arglwydd sydd ynghyd â mi,
er cosbi fy ngelynion.
8Gwell yw gobeithio yn Nuw cun,
nag mewn un dyn o’r aplaf:
9Gwell yw gobeithio yn yr Ion,
nâ’r tywysogion pennaf.
10Doed y cenhedloedd arna’i gyd,
a’i bryd ar wneuthur artaith:
Ond yn enw y gwir Arglwydd Naf,
myfi a’i torraf ymaith.
11Daethant i’m cylch ogylch i’m cau,
ac ar berwylau diffaith,
Ond yn enw’r gwith Arglwydd Naf,
myfi a’i torraf ymaith.
12Daethant i’m cylch fel gwenyn mân:
fal diffodd tân mewn goddaith,
Yn enw yr Arglwydd yr wyf fi
yn eu diffoddi ymaith.
13Fy nghaf-ddyn gwthiaist atta’n gryf,
i geisio gennyf syrthio.
14Duw a’m cadwodd,
sef Ion fy ngrym,
fy iechyd i’m, ac etto.
15Am orfoledd Duw y bydd son
yn nhai rhai cyfion dwyfol,
Mai’r Arglwydd Dduw â’i law ddehau,
a wnaeth y gwrthiau nerthol.
16Deheulaw’r Arglwydd drwy ei nawdd
ef a’i derchafawdd arnom:
A dehau law yr Arglwydd nef,
a wnaeth rymusder drosom.
17Nid marw onid byw a wnaf,
mynegaf waith yr Arglwydd,
18Hwn a’m cospodd, ond ni’m lladdodd,
yn hyttrach lluddiodd aflwydd.
19Agorwch ym byrth cyfiownder,
o’i mewn Duw ner a folaf.
20Porth yr Arglwydd fal dyma fo,
ânt iddo’r rhai cyfiownaf.
21Minnau a’th folaf yn dy dy,
o herwydd ytty ’nghlywed,
Yno y canaf nefol glod
yt, am dy fod i’m gwared.
22Y maen sy ben congl-faen i ni,
a ddarfu i’r seiri ei wrthod.
23O’r Arglwydd Dduw y tyfodd hyn,
sy gan ddyn yn rhyfeddod.
24Yr Arglwydd a’i gwnaeth, dyma’r dydd,
er mawr lawenydd ynny,
Yntho cymrwn orfoledd llawn,
ymlawenhawn am hynny.
25Attolwg Arglwydd y pryd hyn
yr ym yn erfyn seibiant.
Adolwyn Arglwydd Dduw pâr’ yn’
y pryd hyn gaffael llwyddiant.
26Bendigedig yw y sawl a ddel
yn enw yr uchel Arglwydd.
O dy Dduw bendithiasom chwi,
drwy weddi a sancteiddrwydd.
27Yr Arglwydd sydd yn Dduw i ni,
rhoes i’n oleuni ragor.
Deliwch yr oen a rhowch yn chwyrn
yn rhwym wrth gyrn yr allor.
28Tydi o Dduw wyt Dduw i mi,
am hyn tydi a folaf:
(Da gwedd it fawl, fy Nuw mau fi)
a thydi a ddyrchafaf.
29Molwch yr Arglwydd, cans da yw
moliannu Duw y llywydd,
O herwydd ei drugaredd fry,
a bery yn dragywydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.