1Rhois weddi ar yr Arglwydd nef,
yn llym fy llef ymbiliais:
2A’m holl fyfyrdod gar ei fron,
o’m calon y tywelltais.
3Ond pan fynegais it fy nghur,
a’m dolur o’m meddyliau,
Da gwyddit ti bob ffordd a’r man,
y rhoesan i mi faglau.
4O’r tu deau nid oedd ym’ neb,
trown f’wyneb, a’m hadwaenai,
Pa nawdd, na neb, o du’n y byd,
fy mywyd a ’mgeleddai.
5Arno llefais, wrthyt dwedais,
Duw, di a ydwyd union:
Fy nghwbl obaith wyt yn wir,
a’m rhan yn nhir y bywion.
6O ystyr Arglwydd, faint fy nghri,
wyf mewn trueni digllon:
Rhag fy erlidwyr gwared fi,
mae rhei’ni yn rhy gryfion.
7O garchar caeth fy enaid tynn,
dy enw am hyn a folaf:
Pan weler dy fod ar fy rhan,
y cyfion twysgan attaf.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.