1Parod yw fy nghalon (o Dduw)
o parod yw fy nghalon,
Canaf yt a datcanaf wawd,
o fawl fy nhafawd ffyddlon.
2Deffro dafod, a deffro dant,
a chân ogoniant beunydd:
Y nabl ar delyn yn gytun,
deffrof fy hun ar laf-ddydd.
3Mawl ytty f’Arglwydd, pan deffrof,
a rof ymmysc y bobloedd:
A chlodfori dy enw a wnaf,
lle amlaf y cenhedloedd.
4Cans cyrhaeddyd y mae dy râs,
hyd yn nheyrnas nefoedd.
A’th wirionedd oi hyd at len
yr wybren a’i therfynoedd.
5Ymddercha Dduw y nef uwchlaw,
oddiyno daw d’arwyddion.
A bydded dy ogoniant ar
y ddayar a’i thrigolion.
6Fal y gwareder drwy hon hwyl,
bob rhai o’th anwyl ddynion.
O achub hwynt â’th law ddehau,
a gwrando finnau’n ffyddlon.
7Yn ei sancteiddrwydd dwedodd Duw
llawen yw fy nghyfamod,
Mi a rannaf Sichem rhyd y glyn,
mesuraf ddyffryn Succod.
8Myfi piau y ddwy dretâd,
sef Gilead a Manasse.
Ac Ephraim yw nerth fy mhen,
a Juda wen fy neddf-le.
9Ym Moab ymolchi a wnaf,
dros Edom taflaf f’esgid
A chwardded Palestina gaeth,
a chwerthin aeth yn rhybrid.
10Duw pwy a’m dwg i’r ddinas gref?
pwy a’m dwg i dref Edom?
11Er yt ein gwrthod, pwy ond ti,
o Dduw, a ’mleddi drosom?
12O unig Dduw, bydd i’n yn borth,
mae’n ofer cymorth undyn.
13Yn Nuw y gwnawn wrolaeth fawr,
fe sathr i lawr ein gelyn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.