1Na ostega, na thaw, na fydd
di lonydd Duw y lluoedd:
2Wele, d’elynion yn cryfhau,
gan godi’ pennau i’r nefoedd.
3Ymgyfrinachu dichell ynn’,
y lle mae ganthyn fwriad:
A dychymygu dilen brudd,
i ni sy’n ymgudd danad.
4Dwedasant, dewch difethwn hwynt
na byddo honwynt genhedl:
Ac na bytho byth (meddant hwy)
am Israel mwy mor chwedl.
5Ymgynghorasant bawb ynghyd,
ac yn un fryd i’th erbyn,
6Edom, Ismael, Moab blaid,
a’r holl Hagariaid cyndyn.
7Gebal: Ammon: Amalechiaid,
Philistiaid a gwyr Tirus:
8Assur, yn gydfraich â phlant Lot,
fal dyna gnot maleisus.
9Tâl dithau adref yn y man,
megis i Madian greulon,
I Sisera, ne’i Jabin swrth,
a laddwyd wrth lan Cizon.
10Yn Endor gynt bu laddfa fawr,
ar hyd y llawr ar wasgar:
Gwna honynt hwythau laddfa ail,
a’i cyrph yn dail i’r ddaiar.
11Gosod eu bonedd hwy fel Zeb,
ac Oreb yr un diwedd:
A'i tywysogion fel Zeba,
a Salmunna i orwedd.
12Dwedent y mynnent yn eu byw
gysegrfa Duw i’w meddiant:
13Fel troad rhod, neu wellt mewn gwynt,
Dyna yr hynt a gaffant.
14Fal y llysg y tân bob pren crin,
a’r fflam yr eithin mynydd:
15Felly â’th ’storm, ymlid hwy’n gynt
nâ dychryn corwynt efrydd.
16Llanw eu tâl’ o warth a chwys,
ceisiant ar frys yr Arglwydd.
17Ac yn dragwyddol iddynt bydd,
gywilydd, mefl, a gwradwydd.
18Difether hwynt: gwyped dyn byw,
mai d’enw di yw Jehofah:
Ac mai ti unic Dduw sydd ar
y ddaiar yn oruchaf.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.