Y Salmau 84 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM LXXXIVQuam dilecta.Dafydd yn hiraethu am Deml Dduw, ac am gynulleidfa y Sainct: a chlod y bobl a ymwelant â Sion.

1Dy Babell di mor hyfryd yw!

(o Arglwydd byw y lluoedd)

2Mynych chwenychais weled hon,

rhag mor dra-thirion ydoedd.

Mae f’enaid i (fy Ion) mewn blys,

i’th gyssegr lys dueddu:

Fy nghalon i, a’m holl gnawd yw,

yn Nuw byw’n gorfoleddu.

3Aderyn y to cafodd dŷ,

a’r wennol fry iw chywion

Le wrth dy allor di iw trin,

fy Nuw a’m brenin tirion.

4Gwyn ei fyd a drig yn dy dy,

caiff dy folianny ddigon:

5Ac ynot ti sy’n cadarnhau,

a’th lwybrau yn eu calon.

6Pe rhon a gorfod ar y rhai’n

rhyd glyn wylofain dramwy:

Gosodant ffynnon iddyn nhw,

a’r glaw a leinw fwyfwy.

7Ant rhagddynt bawb o nerth i nerth,

nes cael yn brydferth ddyfod:

I’mddangos i Dduw gar ei fron,

yn Seion ei breswylfod.

8Arglwydd Dduw y lluoedd, clyw fi,

a’m gweddi o Dduw Jagof:

9Gwel wyneb d’eneiniog, a’i stâd,

Duw’n tarian nâd fi’n angof.

10Gwell yw nâ mil, un dydd i’th dy,

am hynny mwy dewisol

Ym fod ar riniog y drws tau,

nâ phlasau yr annuwiol.

11Sef, haul a tharian yw Duw mâd,

a rydd rad a gogoniant:

Ni lestair ef ddaioni maith,

i’r rhai a berffaith rodiant.

12O Arglwydd Dduw y lluoedd mawr,

anfon i lawr dy gymmod:

Dedwydd yw’r dyn a rotho’i gred,

a’i holl ymddiried ynod.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help