1Wele, holl weision Arglwydd nef,
bendithiwch ef, lle’r ydych
Yn sefyll yn nhy Dduw y nos,
a’i gyntedd diddos trefn-wych.
2Derchefwch chwi eich dwylo glân,
yn ei gyssegr-lân annedd:
A bendithiwch â chalon rwydd,
yr Arglwydd yn gyfannedd.
3Yr Arglwydd a’i ddeheulaw gref,
hwn a wnaeth nef a daiar:
A roddo ei fendith a’i ras
i Seion ddinas hawddgar.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.