1O cenwch glod i’r Arglwydd mâd,
a moeswch ganiad newydd:
Yr holl ddaiar dadcenwch fawl,
yr Arglwydd nefawl beunydd.
2Cenwch chwi glod i’r Arglwydd nef,
a’i enw ef bendigwch:
A’i iechydwriaeth drwy grefydd,
o ddydd i ddydd cyhoeddwch.
3Datcenwch byth ei glod a’i râd,
yngwlad y cenhedlaethoedd:
A’i ryfeddodau ef ym mhlith,
pob amryw, amrith bobloedd.
4Cans ein Arglwydd ni sydd Dduw mawr,
a rhagawr camoladwy:
Uwch yr holl dduwiau y mae ef,
yn frenin nef ofnadwy.
5Duwiau y bobl eulynnod ynt,
ni ellynt mwy na chysgod:
A’n Duw ni a wnaeth nef a llawr,
fal dyna ragawr gormod.
6Cans mawr ydyw gogoniant nef,
ac o’i flaen ef mae harddwch,
Yn ei gyssegr ef y mae nerth,
a phrydferth yw’r hyfrydwch.
7Chwi dylwythau y bobloedd, trowch,
yn llawen rhowch i’r Arglwydd,
I’r Arglwydd rhowch ogonedd fry,
a nerth, a hynny’n ebrwydd.
8Rhowch ogoniant iw enw ef,
yr Arglwydd nef byth bythoedd:
A bwyd offrwm iddo a rowch,
a chwi dowch iw gynteddoedd.
9Addolwch f’Arglwydd gar ei fron
iw gyssegr, digon gweddol:
A’r ddaiar rhagddo, hyd, a lled,
dychryned yn aruthrol.
10I’r holl genhedloedd dwedwch hyn
yr Arglwydd sy’n tyrnasu:
Nid ysgog y byd sy’n sicr iawn,
ef a wyr uniawn farnu.
11O llawenhaed nefolaidd do,
i’r ddaiar bo gorfoledd:
Rhued y mor a’i donnau llawn,
a’r pysg sy’ mewn ei annedd.
12A gorfoledded y maes glâs,
ei dwf, a’i addas ffyniant:
A phob pren gwyrdd sydd yn y coed,
i’r Arglwydd rhoed ogoniant.
13Am ei ddyfod, am ei ddyfod,
a’i farn sydd hynod iownwedd:
Barna yn gyfion yr holl fyd,
a’r bobl, â’i gyd-wirionedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.