Y Salmau 117 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM CXVIILaudate Dominum.Cynghori y Cenhedloedd i foli Duw o ran bod yr addewid mor helaeth iddynt hwy, ac i’r Iddewon.

1O cenwch fawl i’r Arglwydd nef,

moliennwch ef genhedloedd,

Molwch ei Enw ef drwy’r byd,

chwithau i gyd y bobloedd.

2Am ei fod inni yn dda iawn,

yr Arglwydd llawn trugaredd:

A’i air fe fydd yn parhau byth,

sef ei ddilyth wirionedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help