1Tuedda’ ngolwg at y ne’
(fy Nuw) dy le trigiannol.
2Fel y try gweision eu llygaid
at ddwylo i meistraid bydol.
Llygaid llaw-forwyn ar bob tro,
a ddylyn dwylo’i meistres,
Disgwyliwn arnat (Dduw) ’r un wedd,
am dy drugaredd gynnes.
3Dy nawdd Arglwydd, dy nawdd yn rhodd,
dygasom ormodd dirmig,
4Gan watwar y tynn a’r balch iawn,
yr ym yn llawn boenedig.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.