1Y sawl ni rodia, dedwydd yw,
yn ol drwg ystryw gynghor;
Ni saif ar ffordd troseddwyr ffol,
nid eiste’n stol y gwatwor.
2Ond ei holl serch ef fydd yn rhwydd,
ar ddeddf yr Arglwydd uchod:
Ac ar ei ddeddf, rhydd ddydd a nos,
yn ddiddos ei fyfyrdod.
3Ef fydd fel pren plan ar lan dol,
dwg ffrwyth amserol arno:
Ni chrina’i ddalen, a’i holl waith,
a lwydda’n berffaith iddo.
4Nid felly bydd y drwg di-rus,
ond fel yr us ar gorwynt:
Yr hwn o’r tir â’i chwyth a’i chwal,
anwadal fydd ei helynt.
5Am hyn y drwg ni saif mewn barn,
o flaen y cadarn uniawn:
Na’r pechaduriaid mawr eu bar,
ynghynulleidfa’r cyfiawn.
6Canys yr Arglwydd Dduw, fel hyn,
a edwyn ffyrdd gwirioniaid:
Ac ef ni ad byth i barhau,
’mo lwybrau pechaduriaid.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.