1Arglwydd, manwl y chwiliaist fi,
da i’m adwaeni hefyd:
2Eisteddiad, codiad, gwyddost hyn,
a’m meddwl cyn ei dwedyd.
3Yr wyd ynghylch fy lloches i,
a’m ffyrdd sydd itti’n hysbys:
4Nid oes air nas gwyddost ei fod
ar flaen fy nhafod ofnys.
5O’m hol ac o’m blaen i’m lluniaist,
dy law a ddodaist arnaf:
6Gwybodaeth ddieithr yw i mi,
a’i deall hi nis medraf.
7I ba le r’af fi i roi tro,
i’mguddio rhag dy Yspryd?
I ba le ffoaf rhag dy wydd,
drwy gael ffordd rwydd i lathlyd?
8Os dringaf tua’r nefoedd fry,
wyd yno i’th dy perffaith:
Os tua’r dyfndwr, gostwng tro
yr wyt ti yno eilwaith.
9Pe cawn adenydd borau wawr,
a mynd i for mawr anial,
10Yno byddai dy ddehau di,
i’m tywys i a’m cynnal.
11A phe meddyliwn, yr ail tro,
ymguddio mewn tywyllwg,
Canol y nos fel hanner dydd,
mor olau fydd yn d’olwg.
12Nid dim tywyllwch nos i ti
nag yw goleuni haf-ddydd:
A’r ddau i ti maent yr un ddull,
y tywyll a’r goleu-ddydd.
13Da y gwyddost y dirgelwch mau,
f’arennau a feddiennaist,
Ynghroth fy mam pan oeddwn i,
yno dydi a’m cuddiaist.
14Cans rhyfedd iawn y gwnaethbwyd fi,
a’th waith di sy ryfeddod:
A’m henaid a wyr hynny’n dda
a hon a wna yt fowrglod:
15Ni chuddiwyd fy ngrym rhagot ti,
pan wnaethost fi yn ddirgel,
Fel llunio dyn o’r ddaiar hon,
o fewn pridd eigion isel.
16Dy lygaid gwelsant fy nhrefn wael,
cyn imi gael perffeith-lun:
Roedd pob peth yn dy lyfr yn llawn,
cyn bod yn iawn un gronun.
17Mor anwyl dy feddyliau ym,
mor fawr yw sum y rhei’ni:
18Wrth fwrw, amlach gwn eu bod
na’r tywod o rifedi.
Myfyrio pan ddeffrowyf fi,
’r wyf gyd’â thi yn gwblol.
19O Dduw, ba achos yn dy lid,
na leddid yr annuwiol?
O Dduw pe cospid rhai o’r rhai’n
y sydd yn arwain traha:
Wrth y gwaedlyd fo gaid dwedyd,
dydi dos oddiymma.
20Y rhai am danad f’Arglwydd cu,
sy’n treuthu pethau sccler:
A’th elynion dibris eu llw,
cymrasant d’enw’n ofer.
21Ond câs yw gennif, o Dduw Ion,
dy holl gaseion gwaedlyd:
Ond ffiaidd gennyf fi bod dyn,
a ai yn d’enw hefyd:
22A llawn gâs y caseais hwynt,
ynt fel ar bwynt gelynion.
23O chwilia fi o Dduw yn hy,
cei hynny yn fy nghalon.
Duw prawf fy meddwl i’n fy mol
24oes ffordd annuwiol genny:
Gwel fi, tywys, dwg fi yn f’ol,
dod ffordd dragwyddol ymy.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.