1O Achub fi fy Nuw, fy Ner,
cans mae fy hyder ynod:
Rhag fy erlidwyr gwared fi,
cans mae o’r rheini ormod.
2Rhag llarpio f’enaid fel y llew,
heb un dyn glew a’m gweryd:
A’m rhwygo i yn ddrylliau mân,
fal dyna amcan gwaedlyd.
3O Arglwydd Dduw, os gwneuthym hyn,
os drwg y sy’n fy nwylaw:
4Na thrwy ymddiried, dwyll i neb,
pe bawn wrthwyneb iddaw:
5I erlid f’oes y gelyn doed,
dalied, a rhoed fi’n isaf,
A sathred f’urddas yn y llwch,
drwy’r diystyrwch eithaf.
6Cyfod o Dduw, cyfod i’th ddig,
a gostwng big pob gelyn:
A deffro drosof yn y farn,
sef cadarn yw d’orchymyn.
7Pan ddringych, yr holl bobl yn llu,
a ddaw o’th ddeutu attad:
Duw dychwel i’th farn er eu mwyn,
a gwrando’n cwyn yn wastad.
8Duw dyro i’r bobl y farn dau,
a barn di finnau Arglwydd:
Ac fel yr haeddais dod farn iawn,
yn ol fy llawn berffeithrwydd.
9Derfid anwiredd y rhai drwg,
gwna’n amlwg ffordd y cyfion:
Cans union wyd, a chraff, Duw cu,
yn chwilio deutu’r galon.
10Ac am fod Duw yn canfod hyn,
Duw yw f’amddiffyn innau:
Duw sydd iachawdur i bob rhai,
sydd lân ddifai’i calonnau.
11Felly mae Duw byth ar yr iawn,
a Duw yw’r cyfiawn farnydd:
Wrth yr annuwiol ar bob tro
mae Duw yn digio beunydd.
12Ac oni thry’r annuwiol câs,
fo lifa’i loywlas gleddau:
Ar ynnyl y mae bwa’r Ion,
a’i barod lymion saethau.
13Sef arfau angau at y nod,
y maent yn barod ddigon:
Ac ni saetha ef ergyd byrr
at yr erlidwyr poethion.
14Wele hanes y gelyn drwg,
efe a ymddwg ar draha:
O chwydd ar gamwedd, beichiog fydd,
ar gelwydd yr esgora.
15Cloddiodd ef bwll hyd eigion llawr,
o fwriad mawr i’r truan:
Ac ef a syrthiodd ymron bawdd,
i’r dyfn i’w glawdd ei hunan.
16Ei holl enwiredd ar ei ben,
o uchder nen a ddisgyn:
A Duw a ddymchwyl yr un wedd,
ei gamwedd ar ei goryn.
17Im harglwydd Duw rhof finnau glod,
câf ganfod ei gyfiownder.
A chanmolaf ei enw yn rhwydd,
yr Arglwydd o’r uchelder.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.