1Llawer cenedl (o Dduw) a ddaeth,
i’th etifeddiaeth unig:
Rhoed Caerselem a’i chyssegr hi,
yn garneddi o gerrig.
2Rhoi cyrph dy weision,
wrth eu rhaid, i hediaid y ffurfafen:
I’nfeiliaid maes rhoi cig dy saint,
fel dyma fraint aflawen.
3Fel ffrydau dwfr tywallt a wnaed,
eu gwaed o amglch dinas
Caerselem, heb roi corph mewn bedd,
fel dyma ddiwedd atgas.
4Yn ddirmyg, gwradwydd, ac yn warth,
i bawb o’n pobparth ydym.
5O Dduw pa hyd? wyd byth yn ddig?
ai fel tân ffyrnig poethlym?
6Tywallt dy lid ar bobl estron,
rhai nid adwaenon m’onot:
Ac ar dyrnasoedd ni eilw,
(Duw) ar dy enw hynod.
7Cans wyrion Jagof (bobl oedd gu)
y maent iw hysu’n rhyfedd:
Ac a wnaethant i’r rhei’ni fod
preswylfod anghyfannedd.
8Na chofia’n camwedd gynt i’n hoes,
Duw bryssia moes drugaredd:
Dy nodded a’n rhagflaeno ni
sy’ mewn trueni’n gorwedd.
9O Dduw ein iechyd cymorth ni,
er mwyn dy fri gogonol:
A gwared er mwyn dy enw tau,
ni rhag pechodau marwol.
10Pan y gofynnant ple mae’n Duw,
dod arnynt amryw fformod:
I ddial gwaed dy ddwyfol blant,
ac yno cânt hwy wybod.
11Duw, doed ochenaid ger dy fron
dy garcharorion rhygaeth:
Ac yn dy ddirfawr ogoniant,
ymddiffyn blant marwolaeth.
12Ein cymdogion a’th gablodd di,
tâl i’r rhei’ni yn gwblol
Eu cabledd iw mynwesau’i hun,
o Arglwydd gun gorchestol.
13Ninnau dy bobl a’th ddefaid mân,
a wnawn yt gân ogonawl,
O oes i oes byth i barhau,
ac i’th fawrhau’n dragwyddol.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.