Y Salmau 58 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM LVIIISivere utique.Y mae efe yn gosod allan dull ei elynion, y rhai yn ddirgel a geisient ei ddifa ef: ac y mae efe yn troi at farn Duw, ac yn dangos y caiff yr union lawenydd pan gwymper y traws. A hyn er gogoniant i Dduw.

1Ai’r uniondeb (o bobloedd wych)

yr ydych yn ei ddwedyd?

A ydych chwi, o blant dynion,

yn barnu’r union hefyd?

2Hyttrach malais sy yn eich bron

ac ystryw calon dwyllgar:

A gwaith eich dwylo trowsder blin,

tra foch yn trin y ddaiar.

3Y rhai annuwiol aent ar gam,

o groth eu mam newidient,

Ac ar gyfeilorn mynd o’r bru,

a chelwydd fu a draethent.

4Un wedd a gwenwyn y sarph yw

y gwenwyn byw sydd ynddyn.

Neu’r neidr fyddar yn trofâu,

dan gau ei chlustiau cyndyn.

5Yr hon ni wrendy ddim ar lais,

na’r wers a gais y rhinwyr,

Nac un gyfaredd ar a wna

y cyfarwydda’ o swyn-wyr.

6Duw, torr eu dannedd yn eu safn,

diwreiddia’r llafn o dafod:

Duw dryllia’r bonau, a gwna’n donn

bob grudd i’r c’nawon llewod.

7Todder hwynt fel dwr ar y tir,

felly diflennir hwythau:

Os mewn bwa rhoesant saeth gron,

boed torri hon yn ddrylliau.

8Boent hwy mor ddiffrwyth, ac mor hawdd

a malwen dawdd y todder:

Neu fel rhai bach ni welai’r byd,

o eisau pryd ar amser.

9Tâl Duw iddynt ffrwythau eu llid,

cynt nac y llosgid ffagldan:

Tynn hwyntwy ymaith yn dy ddig,

cyn twymnai cig mewn crochan.

10A phan weler y dial hyn,

fo chwardd y glanddyn cyfion.

Pan fo rhydd iddo olchi eu draed

yngwaed yr annuwolion.

11Yna dywaid dynion fod iawn,

a ffrwyth i gyfiawn bobloedd:

A bod ein Duw yn farnwr ar

y ddaiar a’i therfynoedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help