Y Salmau 116 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM CXVIDilexi quoniam.Diolch Dafydd i Dduw am ei fawr gariad tuag atto ef, pan oedd Saul yn ei erlid ef yn niffeithwch Maon.

1Da gennif wrando’ or Arglwydd nef,

ar lais fy llef a’m gweddi:

2Am iddo fy nghlywed i’n hawdd,

byth archaf ei nawdd imi.

3Mae maglau angau i’m cynllwyn,

ym mron fy nwyn i’m beddrod:

4Cefais ing. Ond galwaf fy Ner

i’m hoes, moes dyner gymmod.

5Cyfion yw’r Ion trugarog iawn,

ein Duw fy lawn o nodded.

6Duw a geidw’r gwirion: bum i,

mewn cyni, daeth i’m gwared.

7O f’enaid dadymchwel o’r llwch:

dyrd i’th lonyddwch bellach:

Am i’r Arglwydd fod i ti’n dda,

saf i’th orphwysfa bauach.

8Oherwydd i Dduw wared f’oes,

a’m cadw rhag gloes angau,

Fy nrhaed rhag llithro i law drwg,

a’m golwg i rhag dagrau.

9Yn y ffydd hon o flaen fy Nuw,

ym mysg gwyr byw y rhodiaf.

10Fel y credais felly y tystiais,

ar y testyn ymma.

11Yn fy ffrwst dwedais i fal hyn,

mae pob dyn yn gelwyddog,

12Ond o Dduw, beth a wnaf i ti,

am dy ddaioni cefnog?

13Mi a gymeraf, gan roi mawl,

y phiawl iechydwriaeth,

Ac a alwaf, er mwyn fy llwydd,

ar enw yr Arglwydd bennaeth.

14I’r Arglwydd talaf yn forau,

fy addunedau ffyddlon,

Y myd hyn o flaen ei holl lu,

y modd y bu’n fy nghalon.

15Marwolaeth ei sainct gwerthfawr yw

yngolwg Duw: O cenfydd,

Dy wâs, dy wâs wyf, mewn dirmyg,

mab dy forwynig ufydd.

16Datodaist fy rhwymau yn rhydd,

fy offrwm fydd dy foliant.

17Enw’r Arglwydd nid â o’m co,

i hwnnw bo gogoniant.

18I’r Arglwydd bellach tala’n frau

fy addunedau cyfion.

19Ynghaer Salem dy sanctaidd dy,

o flaen dy deulu ffyddlon.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help