Y Salmau 45 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM XLVEruotauit eur meum.Anrhydedd, nerth, a phrydferthwch Salomon: bendithio ei briodas ef a’r Aiphtes, os hi a ymwrthodei â’i thylwyth, gan ddilyn ei gwr; a hyn yn arwydd o Ghrist a’r eglwys o’r cenhedloedd.

1Traethodd fy nghalon bethau da,

i’r brenin gwna’ fyfyrdod:

Fy nhafod fel y pin, y sydd

yn llaw scrifennydd parod.

2Uwch meibion dynion tegach wyd,

tywalldwyd rhad i’th enau,

Herwydd i Dduw roi arnat wlith

ei fendith byth a’i radau.

3Gwisg dy gleddau yng wasg dy glun,

o gadarn gun gogonedd:

A hyn sydd weddol a hardd iawn,

mewn llwydd a llawn orfoledd.

4Marchog ar air y gwir yn rhwydd,

lledneisrwydd, a chyfiownedd:

A’th law ddeau di a â drwy

bethau ofnadwy rhyfedd.

5A thanat ti pobloedd a syrth,

gan wyrth dy saethau llymion:

Briwant hwy, a glynant yn glau

ym mronnau dy elynion.

6Dy lân orseddfaingc (o Dduw fry)

a bery o dragwyddoldeb:

Awdurfaingc dy dyrnas y sydd

awdurol: rhydd uniondeb.

7Ceraist uniondeb: case’ist gam,

o achos pa’m: Duw lywydd,

Dy Dduw rhoes arnat ragor fraint,

sef ennaint y llawenydd.

8Aroglau myrh, ac aloes da,

a chasia sy ar dy ddillad,

Pan ddelych di o’th Ifyrn dai

lle i’th lawenai’r hollwlad.

9Sef merched brenhinoedd yn gwau

gyda’ch garesau cywir,

O’th du deau’r frenhines doeth

mewn gwisg aur coeth o Ophir.

10Clyw hyn, o ferch, a hefyd gwel,

ac a chlust isel gwrando:

Mae’n rhaid yt ollwng pawb o’th wlâd,

a thy dy dâd yn ango’.

11Yna’i bydd (gan y brenin) wych

gael edrych ar dy degwch:

Dy Arglwydd yw, gwna iddo foes,

i gael i’th oes hyfrydwch.

12Merched Tirus oedd â rhodd dda:

a’r bobloedd appla o olud:

A ymrysonent gar dy fron,

am roi anrhegion hefyd.

13Ond merch y brenin, glân o fewn,

anrhydedd llawn sydd iddi:

A gwisg o aur a gemmau glân

oddiallan sydd am dani.

14Mewn gwaith gwe nodwydd y daw hon

yn wych gar bron ei harglwydd,

Ac a’i gwyryfon gyda hi

daw attad ti yn ebrwydd.

15Ac mewn llawenydd mawr a hedd

ac mewn gorfoledd dibrin,

Hwyntwy a ddeuant wrth eu gwys

i gyd i lys y brenin.

16Dy feibion yn attegion tau

yn lle dy dadau fyddant,

Tywysogaethau drwy fawrhâd,

yn yr holl wlâd a feddant.

17Coffâf dy enw di ymhob oes,

tra caffwyf einioes ymy:

Am hyn y bobloedd a rydd fawl,

byth yn dragwyddawl ytty.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help