Y Salmau 63 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM LXIIIDeus Deus meus.Dafydd wedi dianc o Ziph yn diolch i Dduw am ei waredu, yn prophwydo dinistr gelynion Duw, a dedwyddwch y rhai a ymddiriedant yntho.

1Tydi o Dduw yw y Duw mau,

mi a geisia’n foreu attad.

Y mae fy enaid yn dra sych,

a’m cnawd mewn nych amdanad.

2Mewn lle heb ddwfr, mewn crinder crâs

ceisiais o’th ras dy weled,

Mal i’th welswn yn y Deml gynt,

ar helynt nerth gogoned.

3Cans dy drugaredd (o Dduw byw)

llawer gwell yw nâ’r bywyd:

A’m gwefusau y rhof yt fawl,

a cherdd ogonawl hyfryd.

4Felly tra fwyf fi fyw y gwnaf,

ac felly’th folaf etto,

Ac yn dy enw di sydd gu

y caf dderchafu’ nwylo.

5Digonir f’enaid fel â mer

a chyflawn frasder hefyd:

A’m genau a gân y moliant tau,

â phur wefusau hyfryd.

6Tra fwy fi yn fy fy ngwely clyd,

caf yn fy mryd dy gofio,

Ac yng wiliadwriaethau’r nos

câf achos i fyfyrio.

7Ac am dy fod yn gymmorth ym’,

drwy fawr rym’ dy drugaredd,

Fy holl orfoledd a gais fod

dan gysgod dy adanedd.

8Y mae f’enaid wrthyd ynglyn

dy ddeau sy’n ynghynnal.

9Elont i’r eigion drwy drom loes,

y rhai a’m rhoes mewn gofal.

10Syrthiant hwyntwy ar fin eu harf,

sy noeth er tarf i’r gwirion.

A chwedi eu meirw hwyntwy dod

yn fwyd llwynogod gwylltion.

11Ond y brenin yn enw ei Dduw

boed tra fo byw yn llawen:

A phawb a dyngo iw fowredd

a gaiff orfoledd amgen.

12Ond o’r diwedd y daw yn wir,

fe a dywelldir tywod,

I gau safnau y rhai y sydd

yn tywallt celwydd parod.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help