Y Salmau 11 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM XIDomine confido.Aml brofedigaethau. Duw yn gwared allan o honynt, ac yn llywodraethu y da a’r drwg.

1Credaf i’r Arglwydd yn ddi-nam:

paham y dwedwch weithian

Wrth f’enaid, hwnt, a hed i’th fryn,

fel wrth aderyn bychan?

2Wele’r annuwiol a’i bwâu,

a’i cawell saethau’n barod,

Am wirioniaid yn llechu’n fain,

i saethu’r rhai’n o gysgod.

3Y seilfain oll i lygredd aeth:

ond beth a wnaeth y gwirion?

4Mae’r Arglwydd yn ei ddinas gref,

fe weryd ef y cyfion.

Yr Arglwydd o’i orseddfa fry

at y tlawd try ei olwg,

Gweithredoedd holl hiliogaeth dyn,

iw lygaid ydyn amlwg.

5Mae’r Arglwydd o’r naturiaeth hon,

prawf gyfion er ymgeledd,

Ond câs yw gan ei enaid fo

ddyn drwg a hoffo wagedd.

6Ar bechaduriaid marwor, tân,

a brwmstan a ddaw’n gawod,

A gwynt tymestlog uchel iawn,

fal dyna iawn wialennod.

7Cans cyfion ydyw’r Arglwydd ner,

cyfiownder mae’n ei garu:

A'i wyneb at yr union try,

a hynny iw ymgleddu.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help