Y Salmau 85 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM LXXXVBenedixisti Dom.Er mwyn nad oedd Duw yn tynnu mo’i wialen oddiar ei Eglwys gwedi ei dyfod adref o Babel, maent hwy yn gyntaf iw goffau ef i orphen arnynt waith ei ras. Ac yn achwyn rhag eu hir gystudd, ac yn olaf, yn ymlawenychu yn eu gobaith o addewidion Duw.

1Da wyd i’th dir (Jehouah Ner)

dychwelaist gaethder Jago:

2Maddeuaist drowsedd dy bobl di,

mae’i camwedd wedi’i guddio.

3Tynnaist dy lid oddiarnom ni,

troist dy ddiglloni awchlym:

4(O Dduw ein nerth) tro ninnau’n well,

a’th lid bid bell oddiwrthym.

5Ai byth y digi wrthym ni?

a sori di hyd ddiwedd?

A saif dy lid o oes i oes?

Duw gwrando, moes drugaredd.

6Pam? oni throi di a’n bywhau,

a llawenhau yr eiddod?

7O dangos in’ dy nawdd mewn pryd,

felly cawn iechyd ynod.

8Beth a ddywaid Duw am danaf,

mi a wrandawaf hynny:

Fe draetha hedd iw bobl, a’i Sainct,

rhag troi ym mraint ynfydu.

9I’r rhai a ofnant Arglwydd nef,

mae’i iechyd ef yn agos:

Felly y caiff gogoniant hir,

o fewn ein tir ni aros.

10Ei drugaredd, a’i wirionedd,

ar unwaith cyfarfuant:

Ei uniondeb, a’i hedd ynghyd,

drwy’r tir a’mgydgusanant.

11Gwirionedd o’r ddaiar a dardd,

uniondeb chwardd o’r nefoedd:

12Duw a ddenfyn yn’ ddaioni,

a’n tir i roddi cnydoedd.

13Uniondeb oedd o flaen Duw nef,

a’r cyfion ef aed rhagddo:

A Duw a rodia yn ei waith,

fel i’r un daith ac efo.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help