Y Salmau 3 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM IIIDomine Quid?Achwyn Dafydd wrth Dduw rhag Absalon ei fab, a’i blaid: a chysuri’r eglwys.Caner hon fel Psalm I.

1O Arglwydd, amled ydyw’r gwyr,

y sydd drallodwyr imi:

A llawer iawn i’m herbyn sydd,

o ddydd i ddydd yn codi.

2Dwedai lawer o’r gwrthgyrch blaid

yn drwm am f’enaid eisoes:

Nid oes iddo yn ei Dduw Ior,

chwaith mawr ystor o’r einiois.

3Tithau O Arglwydd ymhob man,

ydwyd yn darian ymy:

Fy ngogoniant wyt: tu a’r nen,

y codi ’ymhen i fyny,

4Ar Dduw yr Arglwydd a’m holl lais,

y gelwais yn dosturaidd.

Ac ef a’m clybu i ar frys,

o’i uchel freinllys sanctaidd.

5Mi orweddais, ac a gysgais,

ac mi a godais gwedi:

Canys yr Arglwydd oedd i’m dal,

i’m cynnal, ac i’m codi.

6Nid ofnaf fi, o’r achos hwn,

’mo fyrddiwn sydd yn barod:

O bobloedd, o’m amgylch yn dyn,

i’m herbyn wedi dyfod.

7Cyfod ti Arglwydd, achub fi,

drwy gosbi fy ngelynion:

Trewaist yr eu torraist eu daint,

er maint yr annuwiolion.

8I’r Arglwydd byth (o achos hyn)

y perthyn iechydwriaeth:

Ac ar ei bobl y disgyn gwlith

ei fendith yn dra helaeth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help