1Duw prysura i’m gwared i,
Ion, bryssia di i’m cymmorth.
2Gwarth a gwradwydd a ddel i’r blaid
a gais i’m henaid ammorth.
Drwy wradwydd troer y rhai a ddwg
i mi ddim drwg ewyllys.
3Mefl fo’i gwobr, a draeth hâ hâ,
am danaf yn ddirmygus.
4Y sawl a’th gais calonnog fydd,
o dra llawenydd ynod,
Dweded sawl a’th gâr bob amser,
mawrhyger ein Duw hynod.
5Minnau’n dlawd, ac yn druan sydd,
Duw brysia bydd yn agos:
Fy mhorth a’m ceidwad wyd yn wir,
(o Arglwydd) na hir aros.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.