1O Bryssia Arglwydd, clyw fy llais,
o brysur gelwais arnad:
O’r man lle’y bwyf gwrando fy llef,
a doed i’r nef hyd attad.
2Fy ngweddi gar dy fron a ddalw,
gan godi dwylaw’n uchel,
Yn arogl darth ac aberth hwyr,
fel union ddiwyr lefel.
3O Arglwydd gosod, rhag gair ffraeth,
gadwriaeth ar fy ngenau,
Rhag i’m gam-ddwedyd, gosod ddor
ar gyfor fy ngwefusau.
4Na phwysa ’nghalon at ddrwg beth,
ynghyd-bleth â’r annuwiol:
Nag mewn cydfwriad gwaith neu wedd,
rhag twyll eu gwledd ddaintethol.
5Boed cosp a cherydd y cyfiawn,
fel olew gwerthlawn arnaf:
Ni friw fy mhen, bo mwyaf fo,
mwy trosto a weddiaf.
6Eu barnwyr pe bwrid i’r llawr,
ar greigiau dirfawr dyrys:
Gwrandawent ar f’ymadrodd i,
a chlywent hi yn felys.
7Fel darnau cynnyd o goed mân,
a fwrian rhyd y ddaiar,
Mae’n hesgyrn ninnau yr un wedd,
ym mron y bedd ar wasgar.
8Mae ’ngolwg a’m holl obaith i,
Duw, arnat ti dy hunan:
Duw bydd di’n unic yn fy mhlaid,
na fwrw f’enaid allan.
9Cadw fi Arglwydd rhag y rhwyd,
hon a osodwyd ymy,
Telm yr annuwiol, hoenyn main,
rhag ofn i’r rhain fy magly.
10Yr anwireddwyr b’ado un,
cwympant eu hun iw rhwydau,
Ymddiried ynot ti a wnaf,
ac felly diangaf innau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.