Y Salmau 87 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM LXXXVIIFudamenta eius.Yr Yspryd glân yn prophwydo am ryddhâd yr eglwys a’r cysur sydd o fod yn un o honi.

1Sailfeini hon (sef Sion) sydd,

ar gyssegr fynydd ucho’:

2Ac ar dy byrth rhoes Duw ei serch,

uwch pob trig-lannerch Jaco.

3O ddinas Duw, preswylfa’r Ion,

mawr ydyw’r son danad:

A gogoneddus air yt’ sydd,

uwch trigfennydd yr holl-wlad.

4Rahab, Babel, a Phalestin,

a Thirus flin, a’r Mwriaid

A fu i’th blant elynion gynt,

mae rhai o honynt unblaid.

5Ond dwedir hyn am Seion ber,

fo anwyd llawer ynthi,

Nid ymbell un: cans swccwr da

yw Duw gorucha’ iddi.

6Fe rydd yr Arglwydd yn ei rif,

y neb fo cyfrif hono:

Efe a esyd hyn ar led

sef, hwn a aned yno.

7Cantor tafod, a cherddor tant,

pob rhai yt’ canant fawr-glod

A thrwy lawenydd mae’n parhau,

fy holl ffynhonnau ynod.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help