1Clyw di fugail i Israel,
sy’n arwain fel y defaid
Hil Jagof, a llewycha di,
a’ steddi ar Gerubiaid.
2Fel y gwelo Ephraim hyn,
Beniamin a Manasses.
Cyfod, cymorth a gwared ni,
o’th fawr ddaioni cynnes.
3Llewycha d’wyneb, dychwel ni,
Duw, di a’n cedwi’n gyflym:
4Duw y lluoedd, clyw ein gweddi,
pa hyd y sorri wrthym?
5Llewa’i bara, drwy wylo yn dost,
a wnaethost di i’r eiddod:
A rhoi iddynt ddagrau bob awr,
drwy fesur mawr yn ddiod.
6Duw i’n gelynion o bob parth
rhoist ni yn warth i’n gwatwar:
7Llewycha d’wyneb, dychwel ni,
felly i’n cedwi’n gynnar.
8Dugost o’r Aipht winwydden ir,
rhoist iddi dir i dyfu:
A’r holl genhedloedd o bob man,
troist allan cyn ei phlannu.
9Arloesaist y tir o’i blaen hi,
a pheraist iddi wreiddio:
10Llanwodd, cuddiodd bob bryn a llawr
fel cedrwydd mawr yn brigo.
11A’i hiraidd frig ystyn yr oedd
hyd foroedd ac afonydd:
12Pam y rhwygaist gae’r fâth ber lwyn,
i bawb i ddwyn ei ffrwythydd?
Pawb ai heibio yn tynnu ei grawn,
pan oedd hi’n llawn ffrwyth arni:
13A’r baedd o’r coed yn tirio’i llawr,
a’r bwystfil mawr iw phori.
14O Dduw y lluoedd, edrych, gwyl,
a dychwel i ’mgleddu
Y winllan hon a blennaist di,
â’th law, a’i rhoddi ’dyfu.
15Lle cadarnheist i ti dy hun,
dy brif blanhigyn dedwydd:
16Llygrwyd â’r cledd, a’r tân yn faith,
a hyn o waith dy gerydd.
17I gryfhau gwr dy ddehau law,
boed drostaw dy fraich nerthol,
Hwn a siccrheist i ti dy hun,
sef dros fab dyn dewisol.
18Tros hwn tra rhoddych di dy law
oddiwrthaw ni ddychwelwn:
O Dduw, dadebra, bywha ni,
ar d’enw di y galwn.
19A dadymchwel nyni i fyw,
o Arglwydd Dduw y lluoedd:
Tywynna arnom d’wyneb-pryd,
ni a gawn iechyd bythoedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.