1A ofno’r Arglwydd gwyn ei fyd,
a rhodiaw rhyd ei lwybrau,
2Bwyttei o ynnill gwaith dy law,
a blith y daw i tithau.
3Dy wraig ar du dy dy is nen,
fel per winwydden ffrwythlon,
Dy blant ynghylch dy fwrdd a fydd
fel olewydd blanhigion:
4Wele, fal dyma’r modd yn wir
bendithir y gwr cyfion,
Ac ofno’r Arglwydd Dduw yn ddwys,
rhydd arno bwys ei galon.
5Cei gyflawn fendith gan Dduw Ion,
bydd dithau Seion ddedwydd,
Fel y gwelych â golau drem,
Caersalem mewn llawenydd.
6Holl dyddiau d’einioes. Plant dy blant,
cei weled llwyddiant iddynt,
Ac ar holl deulu Israel,
daw hedd diogel arnynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.