Y Salmau 82 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM LXXXIIDeus stetit.Yn erbyn tuedd ac anghyfiownder barnwyr: a dymuno cyfiownder ar law Duw ei hun.

1Holl farnwyr byd mae Duw’n eu mysg,

pe cymrent addysg gantho:

Duw yw ymysg y duwiau mân,

a’i farn sy lân heb wyro.

2Pa hyd y rhoddwch farn ar dro,

gan bleidio gydâ’r trowsion?

3I’r tlawd, ymddifad, rheidus trwch,

paham na fernwch union.

4Gwrandewch chwi ar y gwan a’r gwael,

a’r tlawd heb gael mo’i gyfraid:

(Pan ddel y rhei’ni gar eich bron)

o ddwylo’r trowsion diriaid.

5Gwyr heb wybod, heb ddeall chwaith,

sy’n rhodio taith tywyllni:

Ni syflent hwy, pe siglai ’nghyd,

yr hollfyd a’i sylfeini.

6Dwedais mai duwiau ych yn siwr,

a phlant i’r Gwr goruchaf:

Er hyn mal dyn marw a wnewch,

un gwymp a gewch a’ch hynaf.

7Duw cyfod, a dyro farn ar

y ddayar a’i thyrnasoedd:

8 Cans mawr yw d’etifeddiaeth, di

a feddi’r holl genhedloedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help