1Molwch yr Arglwydd, cans da yw,
moliennwch Dduw ein llywydd,
Oblegid ei drugaredd fry
a bery yn dragywydd.
2Y gwaredigion canent fawl,
i Dduw gerdd nodawl gyson:
Y sawl a’ achubwyd, caned hyn,
o law y gelyn creulon.
3A gasglodd o bedwar-ban byd,
dowch chwi i gyd-ganeuau.
O dir y dwyrain dowch mewn hedd,
gorllewin, gogledd, deau.
4Drwy yr anialwch, wyrdraws hynt,
y buasent gynt yn crwydro
Allan o’r ffordd: heb dref na llan,
lle caent hwy fan i drigo.
5Drwy newyn, syched bu’r daith hon,
a’i calon ar lewygu:
6Ar Dduw y galwent y pryd hyn,
pan oeddyn ymron trengu.
Yna eu gwared hwynt a wnaeth,
o’i holl orthrym-gaeth foddion.
7Rhyd yr iawn ffordd fe’i dug mewn hedd,
i dref gyfannedd dirion.
8Addefant hwythau gar ei fron,
ei swynion drugareddau:
Ac er plant dynion fel y gwnaeth
yn helaeth ryfeddodau:
9Ddiwallu honaw einioes dyn,
rhag newyn a rhag syched:
Ac o’i fawr râs eu cadw i gyd,
pan oedd y byd yn galed.
10Y rhai mewn tywyllwch a drig,
ynghysgod llewig angau,
Yn rhwym mewn nychdod, ac mewn bâr,
a heyrn ar eu sodlau.
11A hyn o herwydd iddynt fod,
mewn anufydd-dod eithaf:
A llwyr ddirmygu gair Duw Ior,
a chyngor y Goruchaf.
12A thrymder calon cwympiwyd hwy,
nid oedd neb mwy a’i cododd.
13Ar Dduw mewn ing y rhoesant lef,
ac yntef a’i gwaredodd.
14Ef a’i gwaredodd hwynt o’i drwg,
sef o dywyllwg caeth-glud,
O gysgod angau eu rhyddhau,
a thorri eu rhwymau hefud.
15Addefent hwythau gar ei fron,
ei fwynion drugareddau,
Ac i blant dynion fel y gwnaeth
yn helaeth ryfeddodau.
16Cans y pyrth pres torrodd yn chwyrn
a’r barriau heyrn hefyd:
17Am eu bai a’i camwedd yn wir,
y poenir y rhai ynfyd.
18A hwynt yn laru ar bob bwyd,
fe’i dygwyd at byrth angau.
19Ar Dduw mewn ing y rhoesant lef,
achubodd ef hwynt hwythau,
20Gan yrru ei air iw iachau,
ac iw rhyddhau yn fuan:
A hwynt â’i air tynnu a wnaeth
o’i methedigaeth allan.
21Addefant hwythau gar ei fron,
ei fwynion drugareddau:
Ac i blant dynion fel y gwnaeth
yn helaeth ryfeddodau.
22Aberthant hefyd aberth mawl,
iw ogoneddawl fawredd:
A mynegant ei waith a’i wyrth,
yn ei byrth mewn gorfoledd.
23Y rhai ânt mewn llongau i’r don,
a’i taith uwch mawrion ddyfroedd,
24A welsant ryfeddodau’r Ion,
a hyn mewn eigion moroedd.
25A’i air cyffroe dymestloedd gwynt,
y rhai’n a godynt donnau
26Hyd awyr fry, hyd eigion llawr,
ac ofn bob awr rhag angau.
27Gan ysgwyd a phendroi, fal hyn,
dull meddwyn, synnai arnynt.
28Ar Dduw mewn ing y rhoesant lef,
daeth ef a chymorth iddynt.
29Gwnaeth e’r ystorm yn dawel deg,
a’r tonnau’n osteg gwastad.
30Yn llawen ddistaw doen i’r lan,
i’r man y bai’i dymuniad.
31Cyffesent hwythau gar ei fron,
ei fwynion drugareddau,
Ac i blant dynion fel y gwnaeth
yn helaeth ryfeddodau.
32Holl gynulleidfa ei bobl ef,
clod Duw hyd nef dyrchafant:
Holl eisteddfeydd pennaethiaid hen,
yn llawen a’i moliannant.
33Y ffrydau’n ddyrys dir a wnâi,
fe sychai ddwfr lle tarddo.
34A thir ffrwythlawn a wnâi’n ddiffrwyth,
lle trig drwg dylwyth yntho.
35Troes yr anialwch yn llyn glâs,
a’r tir cras yn ffynhonnydd.
36Lle y gwnâi ef drigfan i’r gwael ddyn,
i dorri ei newyn beunydd.
37Lle yr hauasant faesydd glân,
a llawer gwinllan dyner,
Y rhai a roddant lawnder ffrwyth,
a chnydlwyth yn ei amser.
38Cans cynyddasant hwy gan wlith
grasol fendith un Duw cun:
A’i hanifeiliaid hysb a blith,
rhoes yr un fendith arnun.
39Daeth caethder gwedi hyn i gyd,
a drygfyd er eu gostwng.
Gadawodd eu gorthrymmu a’i plau,
cawsant flinderau teilwng.
40Eu dirmyg ar y beilchion troes,
ac ef a’i rhoes i grwydro
Mewn drysni heb lun ffordd i’w chael,
lle buant wael eu gortho.
41Yna rhoes y tlawd i well fri,
dug o’r trueni allan,
Gan lwyddo ei deulu, a’i holl blaid,
fel defaid wrth y gorlan.
42Y rhai cyfiawn a welant hyn,
a chanthyn bydd yn hyfryd:
A’r enwir ceuir ei ddwy en
ar ei gynfigen fowlyd.
43Pa rai sy ddoeth i ddeall hyn,
fe roddir iddyn wybod
Faint yw daioni f’Arglwydd yn’,
wrth hyn y cân gydnabod.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.