Y Salmau 42 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM XLIIQuemadmodum.Dafydd heb gael gan ei erlidwyr ddyfod i’r gynulleidfa sanctaidd, yn dangos fod ei galon ef yn bresennol gydâ hwy, a bod ei holl ymddiried ef yn yr Arglwydd.

1Yr un wedd ag y bref yr hydd

am yr afonydd dyfroedd:

Felly y mae fy hiraeth i

am danat ti o’r nefoedd.

2Fy enaid i sychedig yw,

am fy Nuw byw, a’i gariad:

Pa bryd y dof fi gar dy fron?

fy Nuw a’m cyfion ynad.

3Fy nagrau oeddynt ddydd a nos

yn fwyd ym’, achos gofyn

Ym am fy Nuw bob pen awr bach,

ple mae fo bellach? meddyn.

4O gofio hyn wrthyf fy hun,

fel tywallt ffun fy einioes:

Ynghyd a theulu Duw yr awn,

be cawn fy meddwl eisoes.

Hyd at dy Dduw yn ystig iawn

yr awn, dan ganu clodydd:

Fel tyrfa a fai’n cadw gŵyl,

hyn bum i’w ddisgwyl beunydd.

5Trwm wyd f’enaid o’m mewn:

paham y rhoi brudd lam ochenaid?

6Disgwyl wrth Dduw, a doi gar bron

ei wyneb tirion cannaid.

7Fy enaid o’m mewn pan fo prudd,

a â yn rhydd o’th gofion:

A chofio yr Iorddonen iâch,

ar mynydd bâch o Hermon.

8Dyfnder is dyfnderau y sydd,

ac ar eu gilydd galwant:

A dwfr pob ffrwd, pob llif, pob ton,

hwy dros fy mron a aethant.

9Fy Naf a roes y dydd ym’ hedd,

a’r nos gyfannedd ganu,

I ganmawl fy Nuw, hwn a roes

ym’ einioes iw foliannu.

10Paham im’ gedyt dros gof cyd?

Duw, wrthyd yr achwynaf.

11Er gorthrymder y gelyn cam,

mewn galar pa’m y rhodiaf?

12Trwy f’esgyrn taro cleddyf llym

mewn gwarthlid ym, oedd edliw

Ym’ om gelynion er fy ngwae,

dy Dduw p’le mae fo heddiw?

13Trwm wyd f’enaid o’m mewn:

paham y rhoi brudd lam ochenaid?

14Disgwyl wrth Dduw, a doi gar bron

ei wyneb tirion cannaid.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help