Y Salmau 61 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM LXIExaudi Deus.Y mae yn dymuno ar Dduw ei achub rhag ei erlidwyr, a’i gadarnhau yn ei dyrnas, drwy addo mawl tragwyddol.

1Erglyw (o Dduw) fy llefain i,

ac ar fy ngweddi gwrando:

2Rhof lef o eitha’r ddaiar gron,

a’m calon yn llysmeirio.

Dwg fi i dollgraig uwch na mi,

ac iddi bydd i’m derbyn.

3Cans craig o obaith, twr difost,

y’m fuost rhag y gelyn.

4O fewn dy Babell y bydd byth,

fy nrigfan dilyth dedwydd:

A’m holl ymddiried a fyn fod

ynghysgod dy adenydd.

5Sef tydi Dduw clywaist yn glau,

fy addunedau puraidd:

Rhoist etifeddiaeth i bob rhai

a ofnai dy enw sanctaidd.

6Rhoi oes i’r brenin: nid oes ferr:

fo fydd fyw lawer blwyddyn.

7(Duw) gar dy fron y trig yn hir,

dod nawdd a gwir iw ganlyn.

8A thrwy y rhai’n y molaf fi

dy enw di yn dragywydd.

Ac felly peri i mi gwplau

fy addunedau beunydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help