Y Salmau 12 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM XIISaluum me fac.Wrth weled anllywodraeth, y mae efe yn prophwydo, pan addfedo drygioni, y daw tro gwell.

1O achub bellach Arglwydd cu,

fe ddarfu’r trugarogion:

A’r holl wirionedd a’r ball aeth

o blith hiliogaeth dynion.

2A gwefus gweniaith dwedant ffug,

er twyll a hug i’r eiddyn:

A chalon ddyblyg yr un wedd

y cair oferedd ganthyn.

3Yr Arglwydd torred o’i farn faith

wefusau’r gweniaith diles:

A’r holl dafodau ffrostus iawn

a fytho llawn o rodres.

4Gallwn orfod o nerth tafod,

dwy wefus y sydd eiddom:

Fal hyn y dwedant hwy yn rhwydd,

a phwy sydd Arglwydd arnom?

5Yntau ein Duw a ddwedodd hyn,

rhag llethu’r gwaelddyn codaf:

Y dyn gofidus, tlawd, a’r caeth,

mewn iechydwriaeth dodaf.

6Pur iawn yw geiriau’r Arglwydd nef

a’i ’ddewid ef sydd berffaith,

Fel arian o ffwrn, drwy aml dro

wed’i goeth buro seithwaith.

7Ti Arglwydd, yn ol dy air di,

a’i cedwi mewn hyfrydwch

Byth rhag y ddrwg genhedlaeth hon,

dy weision i gael heddwch.

8Pan dderchafer y trowsion blin,

da ganthyn drin anwiredd:

Felly daw dynion o bob parth

i fwyfwy gwarth o’r diwedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help